Dŵr Cymru'n ymddiheuro wrth wynebu gorfod dychwelyd £16.7m am berfformiad gwael
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro wrth wynebu gorfod dychwelyd £16.7 miliwn i gwsmeriaid drwy eu biliau dŵr yn 2027–28 oherwydd perfformiad gwael.
Dyma’r pedwerydd swm mwyaf ymysg y cwmnïau dŵr sydd wedi eu cynnwys yn y cynlluniau drafft gan y rheoleiddiwr Ofwat, ar ôl Yorkshire Water, Thames Water a Southern Water.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru wrth Newyddion S4C y bydd hyn yn golygu y bydd "biliau cwsmeriaid yn is nag y byddent wedi bod fel arall".
Mae Ofwat hefyd yn cynnig gostyngiad o £300,000 drwy filiau cwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn 2027–28.
Mae’r cyhoeddiad yn rhan o gynlluniau i gosbi cwmnïau am fethu â chyrraedd targedau amgylcheddol a gwasanaeth cwsmeriaid ym mlwyddyn ariannol 2025–26.
Ar draws y diwydiant, mae Ofwat yn cynnig gostyngiad net o £240 miliwn mewn biliau erbyn 2029–30.
Byddai £107 miliwn o’r swm hwnnw’n cael ei ddychwelyd i gartrefi a busnesau drwy eu biliau yn 2027–28.
Yorkshire Water fyddai’n gorfod dychwelyd y swm mwyaf ym mis Ebrill 2027, sef £75.1 miliwn.
Byddai Thames Water yn dychwelyd £45.8 miliwn a Southern Water £17.8 miliwn.
Bydd rhai cwmnïau yn cael taliadau am berfformio’n well na’u targedau. Severn Trent a Northumbrian Water fyddai’n cael y symiau mwyaf.
Pwysleisiodd Ofwat fod “amrywiaeth o ffactorau yn effeithio ar newidiadau i filiau, a bydd yr effaith yn amrywio yn ôl y cwmni a’r math o gwsmer”.
Ymddiheuro am siom
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru wrth Newyddion S4C: “Nid yw ein perfformiad ar y lefel y dylai fod mewn sawl maes, ac rydym yn ymddiheuro lle rydym wedi siomi cwsmeriaid.
“Pan fyddwn yn methu â chyrraedd ein targedau perfformiad, mae’n briodol bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y biliau y mae cwsmeriaid yn eu talu.
“Mae penderfyniad drafft Ofwat yn ymwneud â’n perfformiad yn 2025/26 ac yn cynnig gostyngiadau i’r refeniw y gallem ei gasglu, gan ddechrau ym mis Ebrill 2027.
“Mae hyn yn golygu y byddai biliau cwsmeriaid yn is nag y byddent wedi bod fel arall. Byddwn yn adolygu’r manylion ac yn ymateb drwy’r broses ymgynghori.
“Ein blaenoriaeth yw mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol sy’n arwain at berfformiad annigonol."
Ychwanegodd y llefarydd: “O dan ein tîm gweithredol newydd, rydym yn cryfhau goruchwyliaeth weithredol, yn gwneud atebolrwydd yn gliriach ac yn newid y ffordd rydym yn cynnal ac yn rheoli ein rhwydwaith.
“Cefnogir hyn gan ein rhaglen fuddsoddi sy’n record o £4.2 biliwn ar gyfer 2025–30, gan gynnwys £2.5 biliwn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol.”
'Herio'
Bydd Ofwat yn gwneud ei benderfyniad terfynol ar yr addasiadau sy’n gysylltiedig â pherfformiad erbyn 15 Rhagfyr.
Bydd y newidiadau’n dod i rym ar filiau o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae’r cyhoeddiad yn dod wrth i’r diwydiant dŵr barhau i gael ei feirniadu am ollyngiadau carthion, methiannau yn y cyflenwad a chyflogau uwch swyddogion.
Ddiwedd y mis diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog Andy Burnham gynlluniau am ddeddfau newydd i baratoi’r ffordd i ddod â chwmnïau dŵr sy’n methu dan berchnogaeth gyhoeddus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Fydd y Llywodraeth hon ddim yn caniatáu i gwsmeriaid gael eu trin fel siec wag, ac rydym wedi ymrwymo i amddiffyn cartrefi rhag pwysau costau byw.
“Byddwn bob amser yn herio cwmnïau dŵr pan fyddant yn ceisio trosglwyddo costau diangen i gartrefi.”
