Heddlu Gwent yn wynebu nifer 'digynsail' o achosion llofruddiaeth

Y Prif Gwnstabl Mark Hobrough
Mark Hobrough

Fe allai nifer "disgynsail" yr ymchwiliadau llofruddiaeth eleni weld Heddlu Gwent yn cyflogi ditectifs ar gytundebau dim oriau  i fynd i'r afael â'r galw. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Hobrough y byddai'r llu fel arfer yn gweld dau neu dri ymchwiliad llofruddiaeth y flwyddyn. Ond yn y 10 mis diwethaf mae wedi lansio 11. 

O achos hynny, mae wedi gorfod ariannu symiau sylweddol o daliadau gor-amser a thynnu swyddogion oddi ar ddyletswyddau plismona cymunedol i ymdopi â'r galw.

Dywedodd Mr Hobrough y byddai'r 1,535 o swyddogion yn y llu yn defnyddio ditectifs ychwanegol pe bai'r un duedd yn parhau y flwyddyn nesaf. Er hynny wnaeth o ddim nodi o ble y byddan nhw yn dod na sut y byddai'r cynllun yn gweithio.

Ychwanegodd wrth gynghorwyr Sir Fynwy y byddai'n ystyried ffyrdd amgen rhatach i gefnogi ymchwiliadau o'r fath pe bai'r sefyllfa yn parhau. 

Byddai hyn yn cynnwys cytundebau "dim oriau" i gynnal cyfweliadau neu ymchwiliadau arbennig y tu hwnt i ffiniau'r llu. 

"Ond mae'n rhaid i hynny fod o'r un safon," meddai.

"Yr un bobl sy'n mynd i'r digwyddiadau hyn... swyddogion ifanc ydyn nhw sy'n gwneud gwaith rhagorol, ac rwyf am sicrhau ein bod ni'n gofalu amdanyn nhw ac eu bod nhw'n aros gyda ni yn y tymor hir."

Fe ddisgrifiodd un ymosodiad ci ar fabi fel "trasiedi" gan ychwanegu: "Ein swyddogion cymunedol oedd y rhai cyntaf yn y digwyddiad, mae wedi gadael trawma."

Dywedodd Mr Hobrough fod y llu wedi delio, yn ystod y deg mis diwethaf, â nifer o lofruddiaethau a fyddai fel arfer yn digwydd dros gyfnod o ddwy i dair blynedd.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw gysylltiad â'r digwyddiadau, a oedd yn cynnwys ffactorau'n amrywio o broblemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a thrais domestig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.