Oedi yng ngêm Abertawe wedi cam-drin hiliol honedig
Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Vitor Matos, wedi dweud bod oedi wedi bod yn y gêm rhwng Abertawe a Millwall nos Fawrth yn dilyn honiadau o gam-drin hiliol.
Roedd y cam-drin hiliol honedig wedi'i anelu at un o chwaraewyr Abertawe, Ji-sung Eom.
Roedd Eom, sy'n dod o Dde Korea, yn disgwyl dod ar y cae pan gafodd y gêm ei hatal dros dro.
Cafodd cyhoeddiad ei wneud dros uchelseinyddion stadiwm The Den yn cadarnhau bod honiadau o siantio hiliol wedi bod. Dywedodd y cyhoeddiad fod yr heddlu’n defnyddio lluniau camerâu teledu cylch cyfyng i geisio adnabod unrhyw un oedd yn gyfrifol.
Roedd oedi o tua saith munud tra roedd y dyfarnwr yn siarad â hyfforddwyr y ddau dîm.
Ar ôl y gêm, dywedodd Matos fod y cam-drin hiliol honedig wedi'i anelu at Ji-sung Eom, sy'n 24 oed.
Ychwanegodd fod y dyfarnwr a Millwall wedi cymryd y camau cywir.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod nad oes lle i hyn ac na ddylai sefyllfaoedd fel hyn ddigwydd," meddai.
“Pan fyddan nhw’n digwydd, rydyn ni yma i sefyll ochr yn ochr â’r chwaraewr.”
'Cefnogaeth ddiwyro'
Ychwanegodd ei fod wedi'i dristáu gan y sefyllfa, ond y bydd gweddill y garfan yn cefnogi Eom.
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Abertawe eu bod eisiau “diolch am y modd cyflym a phendant y gwnaeth swyddogion y gêm, Clwb Pêl-droed Millwall a’r heddlu ddelio â’r digwyddiad.”
“Byddwn nawr yn dilyn yr holl brotocolau a gweithdrefnau ac yn cynnig unrhyw gymorth y gallwn i bawb sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.
“Rydyn ni’n sefyll ochr yn ochr â Ji-sung, ac mae ganddo ein cariad a’n cefnogaeth ddiwyro.”
Mae Clwb Pêl-droed Millwall hefyd wedi dweud eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad honedig o gam-drin hiliol yn ystod ail hanner y gêm.
Dywedodd y clwb y byddai unrhyw unigolyn sy'n cael ei ganfod o fod wedi ymddwyn yn y fath fodd yn “wynebu’r camau llymaf posibl”.
“Mae’r clwb yn cydweithio â’r awdurdodau perthnasol i ganfod y ffeithiau ac nid yw’n gallu gwneud sylwadau pellach gan fod y digwyddiad honedig heno yn destun ymchwiliad parhaus gan yr heddlu.
“Mae’r clwb yn cefnogi’r ymchwiliad hwn yn llwyr,” meddai Millwall.
Enillodd yr Elyrch 1-0 gan olygu eu bod nhw'n parhau ar frig y Bencampwriaeth gyda mantais o ddau bwynt.
Llun: Asiantaeth Huw Evans