Teyrnged i 'ddyn ifanc hyfryd' a fu farw gyda'i gi mewn gwrthdrawiad ar yr A470
Mae teulu dyn a fu farw gyda'i gi mewn gwrthdrawiad ar yr A470 wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Aaron, oedd yn cael ei adnabod fel Archie, dros y penwythnos. Roedd yn 32 oed ac yn dod o Lanfair-ym-Muallt.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel dyn ifanc caredig a chariadus a ddaeth â hapusrwydd i bawb o'i gwmpas.
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: "Roedd Aaron yn ddyn ifanc hyfryd oedd yn cael ei garu gan gymaint o bobl. Roedd ganddo bersonoliaeth gynnes, cyfeillgar a heintus, ac fe wnaeth ei gyfeillgarwch a'i galon fawr argraff ar bawb oedd yn ei adnabod.
"Roedd yn byw bywyd llawn a hapus ac wedi cyflawni gymaint, ond roedd yn teimlo mai dim ond y dechrau oedd hyn mewn gwirionedd.
"Roedd Aaron yn saer talentog dros ben a oedd yn ymfalchïo'n fawr yn ei waith. Roedd yn edrych ymlaen at ddechrau swydd newydd ac roedd ganddo gymaint mwy i'w gynnig."
Ychwanegodd y teulu ei fod "yn fab, yn ŵyr ac yn frawd ymroddedig, yn ogystal â ffrind annwyl iawn. Roedd ei gi annwyl, Merlin, yn rhan arbennig o'i fywyd, ac mae'n dorcalonnus bod y ddau ohonyn nhw wedi cael eu cymryd oddi arnom.
"Dim ond un Aaron oedd yna. Fe fyddwn ni'n methu ei chwerthiniad, ei wên, ei gofleidiau mawr a’i bersonoliaeth bob dydd. Does dim geiriau i ddisgrifio'r boen o'i golli, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath hebddo."
Dywedodd y teulu eu bod yn gwerthfawrogi'r negeseuon a'r gefnogaeth ers marwolaeth Aaron, a bod hynny wedi dangos "faint o fywydau y gwnaeth eu cyffwrdd."
Ychwanegodd y teulu eu bod yn gofyn am breifatrwydd ac amser i alaru i ddod i delerau â’r golled.