Ethol Plaid Cymru 'yn hwb i'r alwad am annibyniaeth yn yr Alban'

John Swinney

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud bod ethol llywodraeth Plaid Cymru yng Nghymru yn hwb i'r ymgyrch dros annibyniaeth i'w wlad ei hun.

Ar drothwy cynhadledd yr SNP yn Aberdeen yr wythnos hon, dywedodd John Swinney fod hynny wedi newid “realiti cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig”.

Cafodd llywodraeth leiafrifol gyntaf erioed Plaid Cymru ei ffurfio yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Fe wnaeth prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfarfod yng Nghaerdydd ym mis Medi er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ganiatáu cynnal refferenda ar annibyniaeth.

Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi dweud mai dim ond gyda chydsyniad Senedd San Steffan y byddai modd cynnal refferenda.

'Trobwynt'

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA ar drothwy cynhadledd yr SNP, dywedodd John Swinney fod yr ymgyrch dros annibyniaeth i'r Alban wedi cyrraedd “trobwynt”.

“Rwy'n credu bod rhwymedigaeth lwyr ar y Prif Weinidog i gydnabod bod y Deyrnas Unedig bellach yn endid cyfansoddiadol sy'n sylfaenol wahanol,” meddai.

Cyfeiriodd at y cytundeb rhwng arweinwyr pleidiau sy'n cefnogi annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel prawf bod y ddadl wedi symud yn ei blaen.

“Mae hynny oherwydd bod yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu harwain gan brif weinidogion sydd am adael y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Rydym bellach mewn sefyllfa hollol wahanol, lle mae llawer mwy o gydnabyddiaeth bod yn rhaid mynd i'r afael â'r mater o annibyniaeth unwaith eto.”

Ym mis Medi, dywedodd Andy Burnham wrth John Swinney nad oedd ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban “dan ystyriaeth”.

Dywedodd Prif Weinidog y DU wrth Aelodau Senedd San Steffan y byddai pleidlais ar ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei hystyried pe bai consensws clir a newid ym marn y cyhoedd.

Ond ddyddiau'n ddiweddarach, dywedodd Burnham nad oedd consensws ar y pryd.

Meddai: “Yn fy sylwadau, dim ond tynnu sylw at y ffaith nad oes consensws dros refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban oeddwn i.

“Nid oes sail glir chwaith i awgrymu bod mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn dymuno gadael y Deyrnas Unedig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.