Rhybudd i baratoi am lifogydd yng Nghymru ar ôl blwyddyn o dywydd eithafol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobl i baratoi ar gyfer risg uwch na'r arfer o lifogydd dros y misoedd nesaf, yn dilyn blwyddyn o dywydd eithafol.
Daw hyn ar ôl i'r Swyddfa Dywydd rybuddio y gallai ffenomen hinsawdd fyd-eang El Niño gynyddu'r tebygolrwydd o dywydd gwlypach a mwy stormus yn y DU ddiwedd yr hydref a dechrau'r gaeaf.
Yn dilyn haf o sychder a thanau gwyllt, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn atgoffa pobl y gall perygl llifogydd ddychwelyd yn gyflym wrth i dywydd yr hydref a'r gaeaf gyrraedd.
Mae Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau CNC, yn annog pobl i gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd y corff.
“Dro ar ôl tro, mae llawer o bobl sy'n profi llifogydd dinistriol yn eu cartrefi yn dweud wrthym nad oeddent erioed wedi cael llifogydd o'r blaen, ac nad oeddent yn meddwl y byddai'n digwydd iddyn nhw,” meddai.
Yn ôl CNC, mae un o bob saith cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd.
“Ar ôl haf sych, efallai nad yw perygl llifogydd yn fyw yng nghof pobl, ond gall y newid yn y tymhorau ddod ag amodau tywydd gwahanol iawn yn gyflym iawn,” meddai Mr Parr.
“Dim ond oherwydd nad ydych erioed wedi profi llifogydd o'r blaen nid yw hynny'n golygu nad ydych chi mewn perygl.”
'Paratoi'
Mae CNC yn dweud ei fod yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd, gan gynnwys cynllun arfaethedig i reoli perygl llifogydd llanw yn Aberteifi ac ar hyd glannau Afon Teifi yng Ngheredigion.
Dywedodd Jane Roche, sy'n byw yn lleol ac yn rhedeg caffi a siop bysgod ar lannau Afon Teifi yn Aberteifi, fod paratoi yn hanfodol.
“Rydym wedi gweld â'n llygaid ein hunain yr aflonyddwch y gall ei achosi i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr,” meddai.
“Rydyn ni'n gwybod na ellir atal pob achos o lifogydd, ond gallwn baratoi yn llawer gwell ar eu cyfer.
“Mae datblygu Cynllun Llifogydd Cymunedol wedi dod â phobl leol ynghyd, wedi ein helpu i ddeall pa gamau sydd angen i ni eu cymryd pan gyhoeddir rhybuddion ac wedi rhoi hyder i ni y byddwn yn gallu cefnogi ein gilydd pan fydd tywydd garw yn cael ei ragweld.
“Byddwn yn annog cymunedau eraill i wneud yr un peth. Mae cael cynllun cyn y bydd ei angen yn llawer gwell na cheisio gwneud penderfyniadau pan fydd y dŵr wrthi'n codi.”
Gall pobl wirio eu perygl llifogydd ar wefan CNC drwy ddefnyddio’r gwiriwr cod post, a chofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.

