'Nid rêf go iawn ydy hwn': Cwmni'n ceisio tawelu pryderon am sioe DJ mewn chwarel yn Eryri
Mae cwmni antur sy'n trefnu teithiau i ddyfnderoedd hen chwarel yn Eryri wedi gwadu y bydd "rêf tanddaearol anferth" yn digwydd yno, gan ddweud mai "digwyddiad PR corfforaethol bach a phreifat" fydd yno mewn gwirionedd.
Daeth cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan gwmni oriorau G-Shock y bydd y digwyddiad cerddorol "tanddaearol dyfnaf yn y byd," gyda'r DJ Roni Size yn chwarae, yn digwydd 1,375 troedfedd o dan y ddaear yn Chwarel Cwmorthin ger Tanygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
Mae'r chwarel bellach yn atyniad dan reolaeth cwmni Go Below, sy'n cynnig teithiau i ymwelwyr sy'n hapus i fentro lawr i grombil y ddaear. Ar y pwynt dyfnaf, mae 'na ardal agored a chabannau pren ble mae modd aros dros nos.
Ond roedd y penawdau am "rêf" yn y gloddfa hanesyddol ar 15 Hydref wedi arwain at bryderon yn lleol am ddiogelwch, sŵn a threfniadau ymarferol digwyddiad o'r fath, gyda rhai'n teimlo hefyd y byddai'n amharchus i'r chwarelwyr fu farw dan ddaear dros y blynyddoedd.
'Nid rêf go iawn'
Dydd Sul, cyhoeddodd Go Below - sy'n cynnal teithiau antur yn Eryri ers 2010 - neges ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio tawelu pryderon pobl y cylch.
Dywedodd Go Below eu bod yn deall sut y gallai'r geiriad "rêf tanddaearol anferth" achosi pryder ond mynnon nhw mai nid dyna fydd yn digwydd.
"Yn gyntaf, hoffen ni nodi bod y digwyddiad hwn yn un preifat llwyr, a dim ond tua 30 o bobl fydd yn bresennol – gan gynnwys aelodau o'r tîm, ychydig o newyddiadurwyr, ac ychydig o enillwyr cystadlaethau," meddai'r datganiad.
"Ni fydd tocynnau ar gael wrth y drws ac ni fydd mynediad i'r cyhoedd o gwbl. Bydd staff diogelwch ar y safle yn benodol i droi ymwelwyr annisgwyl i ffwrdd.
"Os bydd unrhyw un yn dod, fydd dim byd i'w weld mewn gwirionedd... Digwyddiad PR corfforaethol bach a phreifat ydy hwn, sydd wedi cael ei or-chwyddo gan y cyfryngau er mwyn denu cliciau ar-lein. Nid rêf go iawn ydy hwn o gwbl.
"Yn y bôn, taith hanes dan ddaear a diwrnod gweithgareddau safonol ydy o, gydag ychydig o gerddoriaeth wedi'i hychwanegu am awr. Mae llawer o'r rhai sy'n mynychu yn newyddiadurwyr a fydd yn cael cyfle i rannu stori anhygoel Cwmorthin a'n treftadaeth llechi Cymreig gyda chynulleidfa ehangach."
Dechreuodd gwaith cloddio yng Nghwmorthin yn 1810, wrth i'r diwydiant llechi dyfu yn ardal Ffestiniog.
Datblygodd yn fwynglawdd tanddaearol sylweddol yn ystod y 19eg ganrif, gyda rheilffordd yn cysylltu'r safle â'r rheilffordd er mwyn cludo llechi o'r cwm.
Mae'r safle hefyd yn rhan o dirwedd llechi Ffestiniog, sy'n ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Wrth gloi eu datganiad i bobl leol ar Facebook, dywedodd Go Below, sydd â'u pencadlys ym Metws y Coed, eu bod yn "gwerthfawrogi" hanes a lleoliad Cwmorthin "gymaint â chi".
"Rydyn ni'n gwerthfawrogi Cwmorthin gymaint â chi, a’n prif flaenoriaeth bob amser yw cadw’r safle, y cwsmeriaid a’r gymuned leol yn ddiogel, yn ogystal â rhoi gwybod i gynifer o bobl â phosibl am ei hanes pwysig," meddai'r cwmni.
"Fel y gwyddoch, rydyn ni wedi bod yn cynnal teithiau yng Nghwmorthin ers dros ddegawd, gan ymroi i rannu treftadaeth anhygoel y chwarel a’r rhai a weithiodd yno. I ni, diwrnod arall yn y swyddfa yn unig ydy hwn, gydag awr o gerddoriaeth wedi’i hychwanegu."
Prif lun: Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0, via Wikimedia Commons. Llun canol: G-Shock, Casio
