Ymosodiad ar brif faes awyr Saudi Arabia yn lladd 12 ac anafu dros 300
Mae o leiaf 12 o bobl wedi marw a mwy na 300 wedi eu hanafu mewn ymosodiad ar faes awyr prysuraf Saudi Arabia.
Cafodd Maes Awyr Rhyngwladol y Brenin Khalid yn y brifddinas, Riyadh, ei daro ddydd Sadwrn, mewn digwyddiad wedi cael ei feio ar grŵp milwrol yr Houthi.
Mae'n debyg mai dyma'r ymosodiad mwyaf difrifol ar y deyrnas ers 2015 a'r digwyddiad unigol mwyaf angheuol ymhlith gwledydd y Gwlff ers dechrau rhyfel yr UDA ac Israel yn erbyn Iran.
Yn ôl yr awdurdodau lleol, mae pedwar o ddinasyddion Saudi ymhlith y meirw, yn ogystal â dau o Bangladesh ac un yr un o Balesteina, UDA, yr Iorddonen, Syria, Sudan a'r Aifft.
Ychwanegodd swyddogion bod rhai o'r sawl sydd wedi eu hanafu yn ddifrifol wael.
Pwy yw'r Houthi?
Mae'r awdurdodau wedi beio grŵp milwrol yr Houthi, sy'n rheoli'r rhan fwyaf o wlad gyfagos Yemen, am y digwyddiad.
Ers dros ddegawd, mae lluoedd Saudi Arabia wedi bod yn cefnogi llywodraeth Yemen yn eu hymdrechion milwrol i drechu'r Houthi, sydd â chefnogaeth Iran, yn rhyfel cartref y wlad.
Yn ddiweddar, mae'r Houthi wedi cynyddu eu hymosodiadau ar dargedau yn Saudi Arabia, gydag ymosodiadau eraill yn effeithio ar ddau faes awyr arall yn y deyrnas bwerus dros y dyddiau diwethaf.
Rhybuddiodd llefarydd ar ran y grŵp ar ôl yr ymosodiad diweddaraf na ddylai cwmnïau awyrennau ddefnyddio gofod awyr na meysydd awyr yn Saudi Arabia.
Mae llywodraeth Saudi Arabia hefyd yn un o gynghreiriad pwysicaf yr Unol Daleithiau yn y rhanbarth. Ym mis Chwefror eleni, fe ymosododd yr UDA ac Israel ar Iran, gan ennyn gwrthymosodiadau gan Iran a'i chynghreiriad, gan gynnwys yr Houthi, ar draws y rhanbarth.
Wrth ymateb i'r ymosodiad yn Riyadh, dywedodd Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, y byddai'n ystyried ymuno â lluoedd Saudi Arabia yn eu cyrchoedd awyr ar luoedd yr Houthi yn Yemen.
Lluniau: Egypt's Intel Observer/X; Kskhh, CC BY-SA 3.0 via Wikimedia Commons
