‘Ni fyddai Gwobr Iris yn bodoli pe bai’n ddibynnol ar gyllid o Gymru yn unig’
Mae sylfaenydd Gwobr Iris wedi rhybuddio na fyddai’r ŵyl ffilm LHDTC+ yn gallu goroesi be pai'n ddibynnol ar gyllid o Gymru yn unig, wrth iddi ddathlu ei 20 mlwyddiant yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
Dywedodd Berwyn Rowlands, sylfaenydd Gŵyl Ffilm Gwobr Iris, fod cefnogaeth ariannol o Gymru a gweddill y DU yn hanfodol i gynnal yr ŵyl, sydd wedi datblygu’n ddigwyddiad rhyngwladol ers ei sefydlu yn y brifddinas yn 2006.
“Y realiti ydi petai Iris yn gorfod dibynnu ar gefnogaeth ariannol yng Nghymru, fysa hi ddim yn bodoli,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Felly mae’r ffaith ei bod hi’n ddigwyddiad sy’n cael ei chefnogi gan sefydliadau Prydeinig yn ogystal â sefydliadau o Gymru yn allweddol i alluogi’r peth i ffynnu.”
Mae’r ŵyl yn cael ei hariannu drwy gyfuniad o sefydliadau elusennol, grantiau cyhoeddus, partneriaethau darlledu a nawdd corfforaethol.
Mae cynnig gwobr ariannol o £40,000 yn ganolog i waith yr ŵyl, gan roi cyfle i’r gwneuthurwr ffilm buddugol greu ffilm fer newydd ar thema LHDTC+.
Dywedodd Mr Rowlands y byddai'n hoffi cael mwy o adnoddau i ddatblygu ffilmiau dogfen ac animeiddio, ynghŷd â chefnogi gwneuthurwyr ffilm mewn cymunedau bach ar draws Cymru.
Ond mae sicrhau cyllid ar gyfer y dyfodol yn parhau’n bryder iddo.
“Dwi’n meddwl mai un o’r pryderon mwyaf ydy bod pawb yn cytuno bod hwn yn rhywbeth pwysig, bod pawb yn cytuno bod hwn yn gwneud da,” meddai.
“Ond wedyn ti’n gofyn, pwy sy’n talu’r biliau?”
‘Pethau’n teimlo’n ansicr’
Roedd tua 1,500 o bobl wedi mynychu’r ŵyl gyntaf yn 2006.
Erbyn hyn, mae’r digwyddiad yn para wythnos ac yn denu tua 11,000 o bobl.
Disgrifiodd Mr Rowlands sefydlu ac arwain Iris fel “un o’r profiadau gorau yn fy mywyd”, ond hefyd yn un o’r rhai “mwyaf anodd”.
Er ei fod yn falch o lwyddiant yr ŵyl, mae’n pwysleisio bod angen iddi barhau i ddangos ei gwerth a chyflawni rôl glir.
Mae hynny’n arbennig o bwysig, yn ei farn ef, gan fod yr hinsawdd ddiwylliannol wedi “dechrau newid” yn ddiweddar.
“Nid bod pethau’n mynd yn ôl yn gyflym, ond mae pethau’n teimlo’n ansicr,” meddai.
“Yn enwedig pan mae gennych chi wleidyddion sy’n cwestiynu pam bod ’na faner yr enfys yn hedfan uwchben neuadd y ddinas, neu neuadd y dref.”
Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi mwy na 21,000 o droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2026.
Ond mae elusennau hawliau LHDTC+ fel Stonewall yn rhybuddio nad yw ffigyrau swyddogol yr heddlu’n adlewyrchu gwir faint y broblem, gan nad yw nifer o ddigwyddiadau casineb yn cael eu hadrodd i'r heddlu.
Er bod cynrychiolaeth LHDTC+ ar y sgrin wedi cynyddu dros y blynyddoedd, mae Mr Rowlands yn credu bod rhai profiadau’n dal i gael eu hanwybyddu.
Dywedodd fod cymeriadau hoyw mewn rhaglenni teledu yn aml yn cael eu diffinio gan eu rhywioldeb, a bod angen gweld ystod ehangach o brofiadau ar y sgrin.
“Mae gennym ni’r hawl i weld amrywiaeth o fodolaeth,” meddai.
Mae'n cymharu'r sefyllfa â phrofiad siaradwyr Cymraeg cyn sefydlu S4C yn 1982.
“Dwi’n meddwl mai’r ffordd hawsaf i mi egluro’r peth ydy gofyn i bobl sy’n ddigon hen i gofio sut fywyd oedd hi fel Cymro Cymraeg cyn 1982, cyn bodolaeth S4C,” meddai.
“Roeddech chi’n anweledig i bob pwrpas ac yn sydyn reit mae S4C wedi galluogi ni fodoli, rydyn ni’n cael enwebiadau Oscar - a dyna dwi’n gobeithio fydd yn gallu digwydd i bobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thraws.
“Ein bod ni’n ymddangos mewn mwy o lefydd gyda mwy o straeon.”
Er bod yr her o sicrhau cynrychiolaeth LHDTC+ ar y sgrîn yn parhau, mae Mr Rowlands yn falch bod ei waith yn helpu i roi Cymru ar y map.
“Fel gwlad fechan, mae Gwobr Iris yn ŵyl Brydeinig o safon sydd wedi ei hymgartrefu’n gyfforddus yn y brifddinas, ond yn edrych allan yn rhyngwladol,” meddai.
Ychwanegodd: “Mae hwn yn rhywbeth rydyn ni’n ei greu ar gyfer y byd tu allan.
“Mae o’n rhoi statws i ni fel cenedl.”
