'Cynlluniau cyffrous' i adfywio Wrecsam yn derbyn £5m o gronfa Trawsnewid Trefi
Bydd £5 miliwn yn cael ei wario ar adfywio Wrecsam wedi i Lywodraeth Cymru glustnodi hanner buddsoddiad newydd o gronfa Trawsnewid Trefi i'r ddinas yn y gogledd-ddwyrain.
Bydd yr arian yn mynd at ailddatblygu ardal Stryt Henblas, Stryt Caer a hen safle sinema'r Hippodrome yng nghanol Wrecsam yn ofod "mwy deiniadol" a "gwyrdd."
Dywedodd Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Wrecsam, y byddai'r arian yn helpu i wireddu'r "cynlluniau cyffrous" ar gyfer yr ardal.
Bydd gweddill y gronfa £10 miliwn yn mynd at gefnogi prosiectau ym Mrynmawr, Castell-nedd, Trefynwy, y Bala a Chasnewydd, yn ogystal â chynllun "creu lleoedd" ar gyfer de-orllewin Cymru.
Cafodd y prosiectau eu dewis ar sail ceisiadau gan gynghorau lleol drwy strategaethau "creu lleoedd."
Rheilffordd y Bala ar ei hennill
Ymhlith y prosiectau tu allan i Wrecsam sy'n cael arian mae Rheilffordd Llyn Tegid yn y Bala, fydd yn derbyn £850,000 i gefnogi cynlluniau i ymestyn y cledrau i ganol y dref.
Mae isadeiledd chwaraeon yn Rodney Parade yn elwa o'r buddsoddiad yng Nghasnewydd, tra fod Cyngor Blaenau Gwent yn cael cymorth i brynu hen safle Stagecoach ym Mrynmawr er mwyn cysylltu'r dref ac ardal siopa ar y cyrion.
Aeth Siân Gwenllian, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, i Wrecsam i gyfarfod ag artistiaid yng nghanolfan ddiwylliannol Tŷ Pawb wrth gyhoeddi'r buddsoddiad.
Dywedodd y gweinidog: "Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol ymweld â Thŷ Pawb a gweld yr effaith drawsnewidiol y mae'r gofod hwn wedi'i chael ar gymuned greadigol Wrecsam.
"Bydd y £10 miliwn hwn yn helpu i adeiladu ar y gwaith gwych rydyn ni eisoes yn ei weld yn digwydd mewn llefydd fel Wrecsam, gan gefnogi busnesau lleol, rhoi hwb i'r nifer o ymwelwyr a chreu mannau y gall cymunedau ymfalchïo ynddynt.
"Mae hefyd yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodir gan ein Tasglu Canol Trefi, sy'n helpu i sicrhau bod adfywio yn cael ei yrru gan yr hyn sydd ei angen ar gymunedau mewn gwirionedd."
Prif lun: Wrecsam. Populimedia, CC BY-SA 4.0 via Wikimedia Commons