Ystyried dyfodol gwasanaethau iechyd Cei Newydd wrth i gytundeb meddygon ddod i ben
Fe fydd panel yn ystyried dyfodol gwasanaethau iechyd yn un o drefi Ceredigion ar ôl i bartneriaid meddygfa teulu benderfynu rhoi’r gorau i’w cytundeb yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.
Mae’r newidiadau yng Nghei Newydd wedi achosi pryder yn lleol, gyda chyn-faer y dref yn dweud wrth Newyddion S4C yr wythnos ddiwethaf fod “pobl yn panicio.”
Nawr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau mai dyfarnu cytundeb newydd ar frys i bartneriaid newydd yw gobaith y Panel Practisau Gwag sydd wedi dod at ei gilydd i drafod y mater.
Ond mae opsiynau eraill yn parhau ar y bwrdd, gan gynnwys y posibilrwydd o ailddosbarthu cleifion y feddygfa ymhlith meddygfeydd eraill yn yr ardal.
Dywedodd y bwrdd iechyd fod y panel wedi cytuno i “ystyried ffiniau ardaloedd y practisau cyfagos” rhag ofn nad oes modd dyfarnu cytundeb newydd a bod angen “wasgaru'r rhestrau cleifion mewn modd rheoledig fel datrysiad amgen.”
Cafodd y syniad o roi’r feddygfa dan reolaeth uniongyrchol y bwrdd iechyd hefyd ei ystyried gan y panel, ond dydy’r opsiwn ddim yn cael ei argymell ar hyn o bryd oherwydd pryderon ynghylch “sicrhau staff priodol i ddarparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy,” meddai swyddogion.
Bydd cyfnod ymgysylltu yn cychwyn ddydd Llun, 12 Hydref, ac yn para wyth wythnos wrth i’r panel geisio dod i benderfyniad. Mae cytundeb y partneriaid presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2027.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Gill Hopley, cyn-faer Cei Newydd, y byddai “real twll mawr” yn yr ardal pe bai’r feddygfa’n cau.
“Odyn, mae pobl yn panicio,” meddai. “A chi’n gallu gweld pam - achos i fynd â fe o’r Cei, beth mae pobl yn mynd i wneud amser ma' dim bysus neu ma’ nhw’n dod o’r tu allan i’r Cei?”
‘Deall pryderon’
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei fod yn “cydnabod yn llawn mor bwysig yw’r gwasanaethau” ac yn “deall y bydd gan bobl gwestiynau a phryderon ynghylch beth fydd yn digwydd ar ôl i’r contract presennol ddod i ben.”
Ychwanegodd: “Mae’r Panel Practisau Gwag wedi ystyried yn ofalus y dewisiadau sydd ar gael, gan ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys diogelwch cleifion, cynaliadwyedd, hyfywedd ariannol, daearyddiaeth yr ardal a'r effaith bosibl ar gleifion. Ei ddewis a ffafrir yw profi a ellir sicrhau darparwr arall drwy broses gaffael ar gyfer dyfarnu contract ar frys.
“Fodd bynnag, nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud. Rydym am i bobl leol gael cyfle ystyrlon i ddeall yr opsiynau a ystyriwyd ac i ddweud wrthym beth yw eu barn cyn cam nesaf y broses.
“Yn y cyfamser, mae Meddygfa Cei Newydd yn parhau ar agor fel arfer ac rydym yn gofyn i gleifion barhau i fod wedi cofrestru gyda'r feddygfa.”
Prif lun: Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0, via Wikimedia Commons, Google Maps.