Ikea yn ymuno â'r farchnad ail-law
Mae Ikea wedi ymuno â'r farchnad ail-law drwy gyhoeddi safle ar gyfer eu dodrefn a nwyddau'r cartref.
Eu nod yw cystadlu yn erbyn safloedd fel eBay aVinted.
Yn ôl y cwmni o Sweden, sydd â siop yng Nghaerdydd, bydd y platfform yn darparu gwell mynediad ar gyfer nwyddau Ikea am bris rhatach.
Mae'r cwmni yn dweud y bydd prisiau 60% yn is ar gyfartaledd na'u nwyddau newydd.
Ond fydd hi ddim yn bosibl gwerthu matresi, teclynnau cegin na bwyd ar y safle.
Bydd modd i gwsmeriaid archebu darnau ychwanegol newydd am ddim, fel bracedi i osod dodrefn ar wal.
Bydd modd i'r perchennog osod ei bris ei hun ar gyfer y nwyddau ar werth, ond bydd angen nodi'r cyflwr.
Mae'r platfform yn estyniad i gynllun 'prynu yn ôl Ikea' a gafodd ei sefydlu yn 2021 er mwyn galluogi cwsmeriaid i werthu rhai nwyddau yn ôl i'r cwmni yn gyfnewid am gredyd.
Dywedodd Greg Lucas, un o reolwyr Ikea yn y DU ac Iwerddon: “Mae'r modd mae bobl yn dodrefnu eu cartrefi wedi newid.
“Os ydynt yn symud, ail-addurno neu'n edrych am rywbeth penodol, mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn ystyried cyfuniad o ddodrefn ail-law gyda nwyddau newydd, ac yn chwilio am eitemau sy'n medru creu cartref sy'n teimlo'n gartrefol iddyn nhw.”
Ar ôl cynnig nwyddau ffasiwn yn gyntaf, mae cwmni Vinted eisoes wedi ehangu gan gynnig nwyddau i'r cartref a rhai electronig.
Mae cwmniau eraill fel John Lewis a Currys hefyd yn gwerthu nwyddau ail-law bellach.