Pont y Borth ar gau ar ôl i gerbyd dros bwysau ei chroesi
Mae Pont y Borth, sy'n cysylltu Ynys Môn ac ardal Bangor, wedi cau i draffig ar ôl i gerbyd dros y terfyn pwysau groesi'r bont.
Dywedodd Traffig Cymru fod angen cau'r A5 er mwyn cynnal archwiliad o'r bont yn dilyn y digwyddiad nos Wener.
"Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag y mae'n saff i wneud hynny," meddai.
Dim ond cerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell sy'n cael croesi Pont y Borth ar hyn o bryd, gyda Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cyfyngiad yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y bont yn parhau'n ddiogel tra bod gwaith yn cael ei wneud.
Mae'r bont wedi gorfod cau sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf ar ôl i gerbydau dros y terfyn pwysau ei chroesi, gan arwain at rwystredigaeth ymhlith rhai yn lleol.
Fis diwethaf, fe ddatgelodd Newyddion S4C fod bron i £8.5 miliwn wedi ei wario ar waith atgyweirio Pont y Borth ers 2022.
Yn ôl cyfrifon UK Highways A55 Ltd, roedd £8.472 miliwn wedi ei wario dros y tair blynedd hyd at ddiwedd Mawrth 2025, gyda £492,000 arall wedi ei neilltuo ar gyfer y gwaith.
UK Highways A55 Ltd sy'n gyfrifol am gostau cynnal a chadw'r bont ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith presennol ar y bont wedi'i gynllunio i barhau tan fis Ebrill 2027.
