Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yn dilyn ‘ymosodiad rhyw difrifol’ yng Nghaerdydd
Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Heddlu’r De ddydd Mawrth fod y dyn 19 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Cafodd merch 16 oed ei rhyddhau o Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn triniaeth ac mae’n derbyn cefnogaeth gan ei theulu a swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig.
Dywed y llu bod “ymholiadau helaeth” yn parhau wedi'r digwyddiad ger Stryd Sandon a Stryd Adam ychydig cyn 23:00 nos Sadwrn.
Cafodd y dyn, o ardal Penylan, ei arestio nos Sul yn dilyn y digwyddiad.
Roedd rhan o’r ardal ar gau am gyfnod ddydd Sul ond mae bellach wedi ail-agor.
Mae Heddlu’r De wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r llu gan gyfeirio at rif digwyddiad *330151.