Cynllun i atal cwmnïau hedfan rhag codi ffi ar rieni i eistedd wrth ymyl eu plant ar awyren
F fydd cwmnïau hedfan yn cael eu hatal rhag codi ffi ychwanegol ar rieni i eistedd wrth ymyl eu plant ar awyren, yn ôl cynlluniau diweddaraf Llywodraeth y DU.
Ni fydd teithwyr chwaith yn gorfod talu i wneud cywiriad os ydyn nhw’n gwneud camgymeriad wrth roi eu henw wrth archebu hediad.
Mae Prif Weinidog y DU Andy Burnham wedi dweud bod newidiadau i’r rheolau yn rhan o ymdrech i fynd i’r afael â’r “newidiadau bychain sydd yn pentyrru” pan mae teuluoedd yn trefnu gwyliau.
Y gred yw y bydd y newidiadau yn dod i rym cyn dechrau gwyliau’r haf yn 2027.
Dywedodd Mr Burnham: “Mae pobl wedi cael llond bol ar y taliadau bach hyn sy’n pentyrru, felly rydw i’n rhoi stop arnyn nhw.
“Dyma hanfod ein datrysiadau bob dydd – rhoi rhywfaint o le i bobl anadlu drwy fynd i’r afael â’r mân bethau sy’n dal pobl allan, yn gwastraffu eu hamser ac yn costio arian iddyn nhw.”
Mae Aelodau Seneddol yn trafod cyfres newydd o reolau ar gyfer cwmnïau teithio, wrth i’r Bil Hedfan Sifil fynd drwy’r Senedd.
Byddai’r gyfraith newydd yn rhoi grym hyblyg i weinidogion lunio rhestr o hawliau teithwyr a rhestr o ddyletswyddau ar gyfer cwmnïau hedfan a meysydd awyr.
Bydd y rheol newydd yn golygu y bydd yn rhaid i gwmnïau hedfan sicrhau bod plant dan 14 oed yn eistedd wrth ymyl eu rhieni neu oedolyn sy’n dod gyda nhw, heb unrhyw gost ychwanegol.
Yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, gall trefnu i riant a phlentyn eistedd gyda’i gilydd gostio hyd at £104 ar daith ddwyffordd ar hyn o bryd.