Athro a oedd yn rhan o gyfres deledu yn pledio'n euog i ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed

ITV Cymru
Gareth Ritter

Mae athro cerddoriaeth a oedd wedi ymddangos ar gyfres deledu boblogaidd wedi pledio’n euog i ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed.

Roedd Gareth Ritter, sydd yn 44 oed, yn wyneb cyfarwydd ar y gyfres ‘Educating Cardiff’ ar Channel 4.

Yn 2015, pan oedd yn 33 oed, fe wnaeth Ritter ymosod ar y ferch 17 oed ar ôl cynnig ei gyrru adref ar ôl digwyddiad yn y ddinas.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Merthyr, clywodd y rheithgor fod Mr Ritter wedi cynnig mynd â’r ferch – na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol – adref.

Ar y ffordd, dywedodd Ritter bod angen iddo stopio yn ei fflat ym Mae Caerdydd ac fe wnaeth wahodd y ferch i ddod i weld ei gartref.

Roedd y ddau yn sefyll ar y balconi ac yn trafod yr olygfa cyn i Mr Ritter wneud cyfeiriad at ei bronnau, cyn ei chyffwrdd yn rhywiol.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Andrew Davies, fod y ferch wedi dweud wrth Mr Ritter nad oedd ei weithredoedd yn “iawn” ac wedi mynd yn ôl i’r ystafell fyw.

Yn fuan wedyn, gofynnodd Mr Ritter i’r ferch a oedd am ddod i weld yr ystafell wely, cyn ei chyffwrdd yn amhriodol eto a cheisio ei chusanu.

Wrth ymateb, dywedodd y ferch wrtho: “Dydw i ddim yn gwneud hyn, merch dda ydw i,” gan nodi ei bod am adael.

Ar y ffordd yn ôl i gartref y ferch, gofynnodd y diffynnydd iddi a oedd yn bwriadu dweud unrhyw beth am y digwyddiad, a dywedodd: “Does dim rhaid i ni ddweud wrth neb am hyn.”

Lluniau

Dywedodd Mr Davies wrth y rheithgor fod yr honiad wedi dod i’r amlwg yn 2022, ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i luniau o’r ferch ar ffôn symudol Mr Ritter wrth ei holi ynghylch mater ar wahân, na wnaeth arwain at unrhyw gamau pellach.

Roedd y lluniau – a ddisgrifiwyd yn y llys fel rhai ‘o natur bersonol’ – wedi’u trosglwyddo o ddyfais tabled cariad y ferch yn 2015, clywodd y llys, ac wedi hynny daethant i feddiant Mr Ritter.

Roedd Ritter eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiadau ar wahân o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant a’u dosbarthu, mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi cael ei gyfweld am y tro cyntaf ynghylch yr honiadau o ymosodiad rhywiol yn 2022.

Ar yr achlysur hwnnw, meddai Mr Davies, fe “ddywedodd celwydd” wrth yr heddlu am fod gyda’r ferch a mynd â hi i’w fflat.

Mewn cyfweliad diweddarach, fe wnaeth Ritter gyfaddef fod y ddau wedi ymweld â’r eiddo.

Dywedodd Mr Davies wrth y rheithgor fod Mr Ritter wedi “newid y sefyllfa er mwyn sicrhau” bod y ferch yn mynd i’w fflat.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y ferch fod ymddygiad Mr Ritter wedi gwneud iddi deimlo’n “anghyfforddus iawn”, gan ychwanegu nad oedd wedi bod eisiau “achosi ffrae” drwy ddweud wrth unrhyw un ar y pryd am yr hyn oedd wedi digwydd.

Roedd ‘Educating Cardiff’ yn dilyn bywyd yn Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd, lle'r oedd Gareth Ritter yn athro.

Cafodd y dyn 44 oed ei ddisgrifio yn y llys fel cerddor ac arweinydd cerddoriaeth “adnabyddus”.

Roedd wedi gwadu cyhuddiad o ymosodiad rhywiol i ddechrau, ond dridiau ar ôl dechrau’r achos newidiodd ei ble i un euog.

Gofynnwyd i’r rheithgor roi dyfarniad ffurfiol o euogrwydd brynhawn Iau.

Wrth ohirio’r achos er mwyn paratoi adroddiadau cyn dedfrydu, dywedodd y Barnwr Dyfed Llion Thomas wrth Ritter fod dedfryd o garchar yn opsiwn.

Cafodd y diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tan 4 Tachwedd, pan mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.