Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn galw am 'fargen newydd' i Gymru gan San Steffan
Mae Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno 'bargen newydd i Gymru' gyda'r nod o elwa o'r un grymoedd â'r Alban.
Brynhawn Gwener fe fydd Rhun ap Iorwerth yn annerch Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru am y tro cyntaf ers buddugoliaeth etholiadol y blaid ym mis Mai.
Mewn llythyr at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig Andy Burnham, mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi nodi'r achos dros ddatganoli pwerau gan gynnwys dros Ystâd y Goron, Hyblygrwydd Ariannu, Lles a dros Seilwaith Rheilffyrdd.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod pobl Cymru wedi rhoi "mandad clir" ar newid cadarnhaol i'w bywydau.
"Mae'r mandad hwn yn cynnwys ymestyn datganoli i alluogi'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gael y grymoedd angenrheidiol - pwerau, cyllid a hyblygrwydd ariannol - i yrru'r cynnydd mwyaf posibl mewn canlyniadau i bobl Cymru drwy integreiddio a gwella gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi," meddai.
"Dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban."
Yn y gynhadledd brynhawn Gwener mae disgwyl i'r Prif Weinidog hefyd ddweud: "Ers mynd i fyd gwleidyddiaeth, rwyf bob amser wedi addo rhoi llais cryf i Gymru.
"Nid sgript a basiwyd o swyddfa chwip San Steffan na llinellau wedi’w paratoi gan arweinydd mewn senedd arall – ond llais ein hunain.
"Ers dod yn Brif Weinidog, dyma'r llais rydw i wedi'i ddefnyddio ym mhob sgwrs gyda phob cynrychiolydd Llywodraeth y DU rydw i wedi'i gyfarfod.
"Heddiw gallaf gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gyda chais ffurfiol - Bargen Newydd i Gymru," meddai.
Mewn datganiad fe nododd mai nod y fargen newydd fydd i "wneud yn iawn" am yr "annhegwch hanesyddol", ac i roi Cymru "ar sail gyfartal â'r Alban":
"Bargen Newydd - y cyntaf o'i math - lle mae Prif Weinidog Cymru yn gwahodd Llywodraeth y DU i drin Cymru nid fel rhanbarth o Loegr ond fel cenedl yn ei hun." meddai.
Fe fydd Rhun ap Iorwerth yn cwblhau ei araith gyntaf fel Arweinydd y blaid yn y gynhadledd flynyddol am 14:30 brynhawn heddiw.
Ymateb y gwrthbleidiau
Mewn ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog fe ddywedodd Prif Arweinydd plaid Reform yng Nghymru Helen Jenner: “Mae Cymru wedi bod yn galw am newid cyfeiriad, ond gyda Phlaid Cymru, yr unig beth rydyn ni wedi’i gael yw rhagor o’r un peth - rhestrau aros sy’n cynyddu’n gyflym a chanlyniadau addysg sy’n dirywio.
“Yr unig blaid a allai sicrhau newid gwirioneddol i Gymru yw Reform.” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Unwaith eto rydyn ni'n gweld Plaid Cymru gydag obsesiwn â’r cyfansoddiad tra bod gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau a theuluoedd yn trafferthu i ymdopi â chostau byw.
“Ers yr etholiad rydym wedi gweld mwy na 30 o grwpiau trafod ac adolygiadau gan Blaid Cymru, ond maent wedi methu â chyflawni ar y materion sydd wir o bwys.
"Maent wedi methu â chadw eu haddewid i leihau rhestrau aros, maent wedi methu â nodi pryd y bydd eu cynnig gofal plant yn cael ei gyflwyno, ac maent wedi methu â chefnogi Ymwelwyr Iechyd i ddychwelyd i’r gwaith.
"Pryd y byddant yn bwrw ati i wneud y gwaith y cawsant eu hethol i’w wneud?”