Ymchwiliad i honiadau o hiliaeth yn erbyn pêl-droediwr Abertawe Adam Idah

Adam Idah
Mae Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon (FAI) wedi dechrau ymchwiliad a fydd yn ystyried a gafodd ymosodwr Abertawe Adam Idah ei gam-drin yn hiliol gan gefnogwyr Israel yn ystod buddugoliaeth 3-0 Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA ddydd Sul.
 
Yn ôl adroddiadau, siaradodd chwaraewr canol cae Iwerddon Jayson Molumby â swyddogion yn ystod y gêm gan ofyn iddynt wrando am lafarganu sarhaus a oedd yn cael ei gyfeirio, yn ei farn e, at Idah gan rai o'r nifer fach o gefnogwyr Israel oedd yn bresennol.
 
Wedi’r chwiban olaf, dywedodd y swyddogion wrth staff yr FAI nad oeddent wedi clywed unrhyw lafarganu hiliol.
 
Pan gysylltodd yr FAI â chynrychiolydd UEFA ynghylch yr honiadau, cafodd y gymdeithas wybod nad oedd gweithdrefnau UEFA wedi'u dilyn am nad oedd adroddiad clir o hiliaeth yn ystod y gêm, gan olygu nad oedd modd dechrau ymchwiliad ffurfiol ar y pryd.
 
Mae’r FAI bellach yn cynnal ei ymchwiliad ei hun drwy gasglu ffilmiau a sain o ansawdd uchel o’r gêm, gan gynnwys recordiadau sain o ochr y cae.
 
Bydd panel annibynnol yn dadansoddi’r deunydd, ac os daw tystiolaeth o gamdriniaeth hiliol tuag at Idah, bydd yr FAI yn cyflwyno cwyn ffurfiol i UEFA ac yn gofyn am ymchwiliad pellach.
 
Mae'n ymddangos nad oedd Adam Idah yn ymwybodol o unrhyw honiadau o gamdriniaeth yn ystod y gêm. Mae’n cael ei gefnogi gan gyd-chwaraewyr ac aelodau o staff y gymdeithas wrth i Iwerddon baratoi ar gyfer gweddill eu gemau yn ystod yr egwyl ryngwladol.
 
Sgoriodd Idah ail gôl Iwerddon mewn gêm a oedd wedi bod yn destun cryn ddadlau cyn y chwiban gyntaf. 
 
Cafodd y gêm ei chynnal yn Debrecen, Hwngari, gyda dim ond tua 300 o gefnogwyr Israel yn bresennol a dim tocynnau ar gyfer cefnogwyr Gweriniaeth Iwerddon.
 
Roedd y cyfarfod wedi’i symud o Weriniaeth Iwerddon oherwydd tensiynau gwleidyddol a phrotestiadau ynghylch chwarae yn erbyn Israel. 
 
Yn gynharach eleni, cytunodd yr FAI i chwarae'r gemau, er mwyn osgoi unrhyw ddirwy neu waharddiad posibl gan UEFA.
 
Mae’r FAI hefyd wedi gofyn i UEFA sicrhau nad yw Iwerddon ac Israel yn herio ei gilydd mewn cystadlaethau yn y dyfodol.
 
Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.