Manchester City 'yn euog o dorri degau o reolau ariannol' Uwch Gynghrair Lloegr
Mae Clwb Pêl-droed Manchester City wedi ymateb yn dilyn adroddiadau fod y clwb wedi ei gael yn euog o dorri mwyafrif o'r 115 o reolau ariannol Uwch Gynghrair Lloegr yr oeddynt yn destun ymchwiliad iddynt.
Yn ôl adroddiad gan The Athletic ddydd Gwener, nid yw'r gosb am dorri'r rheolau wedi ei phenderfynu eto, ond fe allai gael effaith sylweddol ar safle'r clwb ymysg y timau ar frig Uwch Gynghrair Lloegr.
Y gred yw y bydd yn clwb yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
Mewn datganiad yn ymateb i'r adroddiadau, dywedodd Manchester City: "Mae proses yr Uwch Gynghrair yn parhau, gydag elfennau sylweddol i'w cwblhau, ac mae'n destun cyfrinachedd llym.
"Felly, mae safbwynt Manchester City FC yn parhau i fod yn gyson â datganiad y clwb o fis Chwefror 2023.
"Mae'r clwb wedi parchu'r broses briodol yn ddiwyd ers wyth mlynedd, ar y sail y byddai bwrdd ac uwch-reolwyr yr Uwch Gynghrair yn gweithredu fel rheoleiddiwr annibynnol, diduedd a theg, yn rhydd rhag dylanwad pleidiol."
Ymysg yr 115 rheol sydd yn honedig wedi eu torri gan y clwb mae methiant i ddarparu gwybodaeth ariannol gywir o 2009-10 i 2017-18 a methiant i gydymffurfio gyda rheolau Chwarae Teg Ariannol Uefa rhwng 2013-14 a 2017-18.
Mae'r cyhuddiadau yn deillio yn ôl i 2023 pan gafodd y clwb ei gyhuddo o dorri'r rheolau am y tro cyntaf.
Roedd disgwyl cyhoeddiad am ganlyniad yn yr achos y llynedd.
Nid yw Uwch Gynghrair Lloegr wedi ymateb i'r adroddiadau diweddaraf am ganlyniad y broses, a ymddangosodd ddydd Gwener.
Llun: PA