Asiantaeth ddatblygu newydd i Gymru er mwyn cefnogi busnesau bach

Newyddion S4C
S4C
Fe ddylai'r Asiantaeth Ddatblygu sydd i fod i hybu economi Cymru fod yn dechrau ar y gwaith erbyn yr haf y flwyddyn nesaf - ar ryw ffurf o leiaf.
 
Dyna mae Gweinidog yr Economi, Adam Price, wedi ei ddweud, a hynny wrth i un ffon fesur o lwyddiant busnesau awgrymu bod rhywfaint o golli tir wedi bod.
 
Fe gafodd yr ymchwil hwnnw ei wneud gan gangen annibynnol o Fanc Datblygu Cymru, sef Dirnad Economi Cymru.
 
Mae'n cyfeirio at arwyr cynhyrchiant - sef busnesau sy'n gwneud mwy o arian, yn ogystal â chyflogi mwy o bobl, a chyfraniad pob gweithiwr ar gynnydd hefyd.
 
Yn 2024/25 roedd 1,732 o fusnesau wedi ennill y statws hwnnw. Ond mae'r nifer yn is na'r ffigwr cyfatebol o 2,637 o arwyr cynhyrchiant ar gyfer 2022/23.
 
Wrth edrych i'r dyfodol, fe all Llywodraeth Cymru fod yn cymryd cam i'r gorffennol oherwydd mae na fwriad i sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd. 
 
Fe fyddai honno'n adlais o Awdurdod Datblygu Cymru, y WDA, fu wrthi rhwng 1976 a 2006.
 
Ond mae gan rai penaethiaid busnes syniadau go bendant o beth ddylai'r asiantaeth newydd ei wneud. Fflur Elin ydy pennaeth cysylltiadau allanol Ffederasiwn y Busnesau Bach:
 
"O ran yr asiantaeth ddatblygu mae na gyfle i newid pethau i fusnesau bach yng Nghymru, ond hynny dim ond os o'r dechrau mae lleisiau busnesau bach yn rhan o siapio'r asiantaeth ddatblygu" meddai. 
 
"Achos 'y ni am wneud cefnogaeth busnes yn rhywbeth sydd ar gael i bob busnes, dim ots ble dach chi yng Nghymru a beth yw eich maint chi."
 
Angen 'bwrw ymlaen yn gyflym'
 
Dywedodd Lloyd Powell, pennaeth cyfrifwyr ACCA yng Nghymru: "Dan ni'n gefnogol o'r syniad ond be sy'n bwysig ydy clywed sut mae'n mynd i weithio, sut mae'n mynd i weithio gyda busnesau, a be sy'n mynd i fod yn wahanol.
 
"Hefyd yr amserlen o be mae'n mynd i edrych fel, yn hytrach na jyst symud pethau 'mlaen dros y pedair blynedd nesa'...  does dim pwynt 'neud e jyst er mwyn 'neud e," meddai.
 
Adam Price yw'r gweinidog sydd nawr yn gyfrifol am yr economi - neu y gweinidog dros fenter, cysylltedd ac ynni, o roi'r teitl swyddogol iddo:
 
"Dyn ni isio cyrraedd y pwynt lle mae'r Asiantaeth yn weithredol ar ryw ffurf cyn gynted ag sy'n bosib," meddai. 
 
"Fy nisgwyliad i ydy y bydd yr Asiantaeth yn barod ar ryw lun erbyn yr haf y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid i ni dderbyn mai cam wrth gam y byddwn ni'n troedio, gyda'r esblygiad o ran yr amrediad o weithgarwch y bydd yr asiantaeth yn gyfrifol amdani dros gyfnod o flynyddoedd."
 
Wrth sicrhau y bydd gan fusnesau bach ran yn y gwaith o siapio'r Asiantaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis cynrychiolwyr o'r maes hwnnw i fod ar y Panel Ymgynghorol. 
 
Ymhlith y busnesau fydd yn cyfrannu fydd Halen Môn. 
 
Mae eu cynnyrch nhw bellach yn cael ei allforio i dros ugain o wahanol wledydd, o'r brif swyddfa ym Mrynsiencyn ar y fam ynys ac mae'r cwmni'n ddiolchgar o'r cymorth maen nhw eisoes wedi ei gael, fel y dywedodd un o'u gweithwyr, Samuel Burns:
 
"Roedd na lot o gefnogaeth gan Business Wales ac mae'r Development Bank o Gymru wedi rhoi lot o gefnogaeth ynglŷn a solar panels ar y to i wneud y busnes yn fwy gwyrdd, felly o ran y gefnogaeth fel 'na, mae 'di gwneud lot o wahaniaeth i'r busnes."
 
Fe fydd Llywodraeth Cymru'n gobeithio y gall yr asiantaeth ddatblygu helpu llawer yn rhagor dros y blynyddoedd nesaf, pan ddaw honno i fod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.