Dod â chwmni trenau sy’n gwasanaethu gogledd Cymru o dan berchnogaeth gyhoeddus

Avanti West Coast

Bydd cwmni trenau sy’n gwasanaethu gogledd Cymru yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus o fis Mawrth y flwyddyn nesaf, meddai Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU.

Mae Avanti West Coast yn rhedeg gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Llundain, gan gynnwys trenau o Gaergybi a Wrecsam i orsaf Euston.

Mae ei wasanaethau ar hyd arfordir y gogledd hefyd yn gwasanaethu Bangor, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, y Rhyl, Prestatyn a’r Fflint.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Heidi Alexander, nos Sul y bydd cynllun i wella seilwaith, lleihau oedi a gwella profiad teithwyr yn cyd-fynd â’r broses o ddod â’r gwasanaeth o dan berchnogaeth gyhoeddus.

Dywedodd Ms Alexander: “Ers blynyddoedd, rydyn ni wedi clywed straeon am Avanti yn tanberfformio, gyda theithwyr yn dioddef. Digon yw digon.

“Dyna pam y byddwn ni’n dod ag Avanti o dan berchnogaeth gyhoeddus cyn gynted â phosib, ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi ymrwymo i roi gwasanaethau hanfodol yn ôl mewn dwylo cyhoeddus, cysylltu pobl â chyfleoedd a sicrhau twf ym mhob ardal.

“Mae’r cam hwn yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwnnw.

“Byddwn ni hefyd yn cyflwyno cynllun gwella cynhwysfawr, sy’n canolbwyntio ar gyflawni dros deithwyr, nid cyfranddalwyr.”

Mae contract Avanti West Coast i fod i ddod i ben ar 7 Mawrth.

‘Mwy o ddewis’

Dywedodd Andy Mellors, rheolwr gyfarwyddwr Avanti West Coast: “Rydyn ni’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni dros y chwe blynedd diwethaf.

“Rydyn ni wedi adnewyddu ein fflyd Pendolino, cyflwyno ein trenau Evero newydd a rhedeg mwy o wasanaethau nag erioed o’r blaen.

“Gyda’i gilydd, mae’r gwelliannau hyn wedi rhoi mwy o ddewis, mwy o le a gwell cysylltiadau i gwsmeriaid.

“Rydyn ni hefyd wedi parhau i arloesi er mwyn llunio dyfodol rheilffyrdd Arfordir y Gorllewin a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach.

“Dros y misoedd nesaf, byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r llywodraeth i sicrhau trosglwyddiad llyfn i berchnogaeth gyhoeddus, gan barhau i ganolbwyntio ar gyflawni dros ein cwsmeriaid a’n cymunedau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.