Disgyblion yn ‘cymdeithasu mwy’ ar ôl cloi ffonau yn yr ysgol

Disgyblion yn ‘cymdeithasu mwy’ ar ôl cloi ffonau yn yr ysgol

Mae disgyblion yn dweud eu bod yn siarad mwy wyneb yn wyneb ac yn chwarae cardiau amser egwyl ar ôl i’w hysgol gyflwyno system gloi ffonau symudol.

Roedd ysgolion Bro Pedr a Bro Teifi yng Ngheredigion yn ddwy ysgol a wnaeth dreialu’r system Yondr yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf eleni.

Mae’n golygu bod ffôn symudol pob plentyn yn cael ei gadw mewn cwdyn sy’n cael ei gloi ar ddechrau’r dydd a’i ddatgloi ar y diwedd.

Yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C, mae’r system Yondr wedi costio £24,908 ar gyfer y ddwy ysgol yng Ngheredigion. Mae pob cwdyn yn costio £15.

Ond wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd pennaeth Ysgol Bro Pedr, Carys Morgan, fod y cynllun yn “fuddsoddiad yn lles plant a chynnydd academaidd disgyblion”.

“O’dd ein llywodraethwyr ni yn gefnogol iawn i gefnogi’r buddsoddiad,” meddai.

“Buon ni’n ffodus hefyd i allu treialu hyn yng Ngheredigion felly na’th y sir hefyd ein helpu ni wedyn i sicrhau ein bod ni’n gallu buddsoddi yn y cynllun.”

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gofyn am farn athrawon, disgyblion a rhieni ar ganllawiau drafft i gefnogi ysgolion wrth gyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol yn yr ysgol.

Mae hyn yn dod ar ôl pryderon cynyddol am effaith defnyddio ffonau symudol ar lesiant disgyblion, eu hymgysylltiad, eu dysgu a’u hymddygiad.

Ond beth yw barn y disgyblion ysgol eu hunain ar y newid?

Yn ôl Marged, un o ddisgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan, mae’r system “wedi helpu gyda chanolbwyntiad fi a s’dim rhaid fi becso am y ffôn pan fi’n ysgol nawr”.

Ac yntau ym Mlwyddyn 8, does gan Aron ddim ffôn symudol ac felly mae’n teimlo bod y system newydd yn “rhoi llai o bwysau” arno i gael un.

Dywedodd Lili, disgybl arall ym Mlwyddyn 8 Ysgol Bro Pedr, fod y system gloi ffonau symudol bellach yn rhan o’i threfn ddyddiol.

“Fi’n credu bod e’n rili rhwydd nawr oherwydd chi’n mynd i gofrestru, chi’n rhoi ffonau chi yn y pouch a wedyn ma’r athro neu athrawes gofrestru yn cloi e i bawb,” meddai.

“Ni’n neud e bob dydd so ‘ma pawb yn gwybod i neud e nawr.”

Ysgol Bro Teifi

Mae Ysgol Bro Teifi, Llandysul, wedi bod yn rhan o’r un cynllun ers mis Ionawr 2026.

Mae Magw, sydd ym Mlwyddyn 11, yn gweld mwy o ddisgyblion yn cymdeithasu a chwarae cardiau.

“Ma’ lot fwy o ddisgyblion yn dechrau chwarae cerdiau amser egwyl a chinio, mae rhai yn gorffen gwaith cartref a ma’ lot mwy o gyfathrebu a odd hyna ddim yn digwydd cyn y Yondr a fi ‘di gweld newid mawr yn y ffordd ni’n cymdeithasu,” meddai.

Yn ôl Dewi, sydd yn ddisgybl Blwyddyn 11 yno, nid yw’r system wedi effeithio rhyw lawer arno.

“Yn bersonol, sai’n credu bod e ‘di effeithio arna i gymaint â disgyblion eraill ond i ddisgyblion eraill dwi’n credu fod e wedi bod yn fudd mawr iddyn nhw,” meddai.

“Bysen i’n gweud bod e wedi eu helpu nhw’n gymdeithasol i gyd-neud mwy gyda’i gilydd fel chwarae gemau a siarad wyneb yn wyneb yn hytrach ‘na ar y ffôn.”

Mae Gwenno o Flwyddyn 11 yn dweud bod presenoldeb yn y gwersi wedi gwella, gyda disgyblion yn osgoi llai o wersi.

“Mae’r ysgol yn teimlo mwy hapus mewn ffordd. Ti’n clywed mwy o leisiau.”

Mae Heiddwen Tomos yn athrawes ddrama yn Ysgol Bro Teifi. Mae’n dweud bod y system yn “rhoi rhyddid i blant i fod yn blant” a helpu disgyblion i “ddatblygu sgiliau i fod yn fwy cymdeithasol”.

“Mae hefyd yn rhwydd bod e ddim yn amharu ar y dysgu ac mae e’n un ddadl ac yn un frwydr yn llai i orfod gofyn i blant i roi eu ffôn gadw neu i dalu sylw,” meddai.

Ysgol Maes y Gwendraeth

Y tu hwnt i Geredigion, yn Sir Gâr, mae Ysgol Maes y Gwendraeth hefyd wedi bod yn treialu’r system ers blwyddyn.

Yn ôl pennaeth cynorthwyol Ysgol Maes y Gwendraeth, Andrew Payne, mae rhieni wedi “canmol” y system.

“Ma ‘da ni enghreifftiau ble mae rhieni yn gwerthfawrogi bod eu plant nhw ar eu ffonau llai,” meddai.

“Gydag ambell un wedyn, ni ‘di clywed bod pethau di gwella adre bod plant ddim moyn bod ar eu ffonau adref chwaith.”

Yn ôl Nansi, disgybl Blwyddyn 10 ym Maes y Gwendraeth, “fi’n teimlo fel bod chi’n cal mwy mas o addysg chi”.

Mae ei chyd-ddisgybl, Gruff, yn dweud bod y system yn lleihau’r ymyrraeth ar ddysgu.

Dywedodd: “Os ma gyda ti fel ffôn yn poced ti, ma fe’n interfereo gyda addysg ti achos ti’n meddwl beth yw’r notification yn lle beth yw’r gwaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.