Morlo ifanc wedi marw o ganlyniad i 'aflonyddwch' gan y cyhoedd
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi galw ar bobl i roi llonydd i forloi ar lwybr arfordirol Cymru yn dilyn marwolaeth morlo ifanc.
Bu farw'r morlo bach ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach medd y cyngor.
Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion: “Rhaid cofio bod morloi bach angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu.
“Dim ond am dair wythnos yn unig gaiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt ofalu am eu hunain.
“Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth.”
Yn ystod y tymor magu, sydd rhwng Awst a Rhagfyr mae nifer o forloi bach gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru.
Yn aml bydd y morloi bach ar ben eu hunain, ond bydd eu mamau gerllaw, ac felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddynt allu dychwelyd i fwydo eu morloi bach.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt felly cadwch draw a mwynhewch o bell.”