Roy Noble i roi'r gorau i ddarlledu ar y radio wedi bron i 46 o flynyddoedd
Mae'r darlledwr poblogaidd Roy Noble wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i ddarlledu ar y radio y flwyddyn nesaf.
Mewn datganiad, dywedodd y bydd yn rhoi'r gorau i'w sioe ar BBC Radio Wales bob dydd Sul yn 2027 - 46 o flynyddoedd wedi iddo ddechrau.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Mr Noble, sy'n 84 oed, mewn datganiad: "Ar ôl llawer o feddwl, rwyf wedi penderfynu mai'r flwyddyn nesaf fydd yr amser iawn i mi gamu i ffwrdd o fy rhaglen ddydd Sul ar BBC Radio Wales.
"Erbyn i mi gyflwyno fy rhaglen olaf ym mis Mawrth 2027, byddaf wedi treulio 46 mlynedd wych gyda BBC Cymru.
"Mae wedi bod yn fraint oes. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â phobl anhygoel, clywed straeon rhyfeddol ac, yn bwysicaf oll, treulio amser gyda chi, y gwrandawyr.
"Mae radio wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd. Mae Cymru wedi newid hefyd. Ond mae un peth wedi aros yn gyson, a hynny yw'r fraint o gael fy nghroesawu i'ch cartrefi a'ch bywydau."
Dywedodd fod ei iechyd wedi bod yn un rheswm dros ei benderfyniad i roi'r gorau i ddarlledu, a'i fod wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd yn teimlo mai'r peth iawn oedd rhoi'r gorau iddi.
Ychwanegodd fod ganddo nifer o fisoedd ar ôl, ac fe fydd digon o gyfle i ddathlu ei gyfraniad cyn iddo ymddeol am y tro olaf.
"Diolch o galon i bob un ohonoch chi - mae e wedi bod yn fraint", meddai.
"Pob Bendith i chi."
Llun: BBC Cymru