Andy Burnham i drafod Iran ac AI wrth gwrdd â Trump am y tro cyntaf yn Efrog Newydd

Andy Burnham a'i wraig Marie-France Van Heel  (PA)

Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi dweud ei fod yn “ymddiried” yn Donald Trump.

Daw hyn wrth iddo deithio i Efrog Newydd i gynnal ei gyfarfod cyntaf ag Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Bydd Burnham yn cwrdd â Trump am drafodaethau cyn annerch Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (UN) yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Mae disgwyl y bydd y rhyfel yn Iran a deallusrwydd artiffisial (AI) ymhlith y materion fydd yn cael eu trafod rhwng arweinwyr y ddwy wlad.

Daw hynny ar ôl i Burnham awdurdodi ymgyrch filwrol amddiffynnol gan Awyrlu Brenhinol Prydain i ddarparu tanwydd i awyrennau milwrol Saudi Arabia.

Mae’r DU wedi ymateb ar ôl i Saudi Arabia wynebu ymosodiadau â thaflegrau gan grŵp milwrol yr Houthis.

Bu cydweithredu’n ddiweddar hefyd rhwng Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU a Llywodraeth yr Unol Daleithiau ar ddatblygu dronau a systemau deallusrwydd artiffisial ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Mr Burnham wrth ohebwyr fod y “berthynas arbennig” rhwng y ddwy wlad mor gryf ag erioed.

“Pan rwyt ti’n dod i’r swydd hon, rwyt ti’n sylweddoli dyfnder y berthynas.

“Rydym yn ymddiried yn ein cynghreiriad. Wrth gwrs ein bod ni.”

Troi cornel

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ymddiried yn Mr Trump yn bersonol, atebodd y Prif Weinidog: “Ydw.”

Daw hyn ar ôl i Mr Trump ddweud yn gyhoeddus y byddai “wrth ei fodd” yn gweld Iwerddon unedig, yn ystod ymweliad â’r wlad yn gynharach y mis hwn.

Mae Mr Burnham wedi bod yn feirniadol o Arlywydd Trump yn y gorffennol.

Yn sgil y terfysg yn y Capitol yn Washington DC yn 2021, dywedodd Mr Burnham y dylai “unrhyw wleidydd o’r DU sydd yn rhoi unrhyw sylw i Trump nawr deimlo cywilydd.”

Yn ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, mae disgwyl i Mr Burnham ddweud nad yw’r wlad “ar ei gliniau” a’i bod wedi troi cornel ar ôl degawd o anawsterau yn dilyn Brexit.

Dywedodd wrth ohebwyr: “Mae’r cynllun i Brydain yn canolbwyntio ar ‘beth yw ein cyfeiriad dros y 10 mlynedd nesaf a sut ydym yn gwneud bywyd yn fwy fforddiadwy i’n pobl’.

“Dwi’n clywed llawer yn dweud bod y wlad ar ei gliniau – ni yw’r wlad sy’n tyfu gyflymaf yn y G7, mae yna lawer i ymfalchïo ynddo, mae yna lot o bethau sy’n iawn gyda’r wlad a dw i’n bwriadu rhoi neges bositif pan fyddaf yn siarad.”

Llun: Andy Burnham a'i wraig Marie-France Van Heel (PA)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.