Tad a mab o Gymru yn dod i'r brig yn Nhreialon Cŵn Defaid y Byd
Mae tad a mab o Gymru wedi creu hanes ar ôl i’r ddau gael eu coroni’n bencampwyr y byd yn Nhreialon Cŵn Defaid y Byd yn yr Alban.
Fe enillodd David Howells o Gastell-nedd Port Talbot bencampwriaeth y byd gyda’i gi Wyverne Pip ym mhrif gystadleuaeth y treialon.
Ac yng nghystadleuaeth y bugeiliaid ifanc fe enillodd ei fab, Jack Howells, 19 oed, gyda’i gi Cydros Boss.
Dyma’r tro cyntaf i riant a phlentyn ennill y ddwy bencampwriaeth y byd yn yr un treialon.
Roedd enillydd arall o Gymru hefyd, wrth i Kevin Evans ddod i’r brig yng nghategori’r Brace, ble mae un bugail yn tywys dau gi.
Llwyddodd i ennill y gystadleuaeth gyda’i gŵn, Kemi Ids a Valley View Dan.
Daeth Angie Driscoll, oedd hefyd yn cynrychioli Cymru, yn drydydd yn y brif gystadleuaeth yn ogystal.
Roedd miloedd o bobl wedi dod i wylio’r treialon ar Fferm Huntington, yn Lauder yng Ngororau’r Alban, gyda 300 o gystadleuwyr o 34 o wledydd yn cymryd rhan dros y pum diwrnod.
Bydd uchafbwyntiau o’r treialon yn cael eu dangos ar S4C yn y flwyddyn newydd.
Llun: David a Jack Howells (CoLab Cymru)