Arestio dyn ar amheuaeth o daro seiclwr ar Ynys Môn
20/09/2021
Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar ôl i seiclwr gael ei daro oddi ar ei feic ar yr A55 yn Ynys Môn nos Sul.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau sy’n peryglu bywyd ar ôl cael ei daro tra’n seiclo ar yr A55 i gyfeiriad y gorllewin yn y Fali.
Mae dyn 60 oed wedi ei arestio yn ystod oriau man fore Llun ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru’n beryglus, methu a stopio ar ôl gwrthdrawiad, a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Mae’n parhau yn ddalfa ar hyn o bryd.
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000653691.