Canslo mwy o hediadau wedi rhagor o broblemau gyda system traffig awyr
Mae hediadau wedi cael eu gohirio yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd Lloegr ddydd Llun oherwydd problem gyda'r dechnoleg sydd yn rheoli traffig awyr, yn ôl cwmni NATS (National Air Traffic Services).
Mae'r gwasanaeth wedi pwysleidio nad oes gan y broblem gysylltiad â'r nam ar feddalwedd a brofodd NATS yn gynharach yn y mis.
Bryd hynny fe gafodd dros 2,000 o hediadau eu canslo.
Mae meysydd awyr Caeredin, Belfast a Manceinion wedi adrodd am oedi i rai hediadau, gan annog teithwyr i wirio gyda chwmnïau hedfan.
Dywedodd llefarydd ar ran NATS fore Llun: "Mae ein peiriannwyr yn parhau i ymchwilio i'r broblem yn ein canolfan ym Mhrestwick yn yr Alban.
"Nid yw'r meysydd awyr yn ne Manceinion wedi cael eu heffeithio yn gyffredinol, ond mae'r hediadau sy'n teithio tua'r gogledd a'r rheini sy'n gadael meysydd awyr yn yr Alban yn wynebu rhywfaint o oedi ar hyn o bryd.
"Dylai teithwyr gysylltu â'u cwmnïau hedfan. Nid yw hyn yn gysylltiedig â'r broblem bythefnos yn ôl. Ymddiheurwn am y tarfu."
'Digon yw digon'
Mae cwmni hedfan Ryanair wedi dweud bod disgwyl i dros 25,000 o'u teithwyr gael eu heffeithio o ganlyniad i'r broblem ddiweddaraf.
Mae'r cwmni wedi galw ar Brif Weithredwr NATS, Marin Rolfe, i ymddiswyddo.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithrediadau Ryanair Neal McMahon: "Tri diwrnod wedi i NATS roi sicrwydd i gwmnïau hedfan bod 'cynlluniau cadarn' wedi eu cyflwyno er mwyn mynd i'r afael â phroblemau rheoli traffig awyr, mae'r system wedi methu unwaith eto.
"Roedd adroddiad Martin Rolfe yn honni na fyddai methiant arall yn 'debygol', ac y byddai NATS yn gallu adfer yn gynt pe bai problem yn codi. Mae'r honiadau hynny yn ddibwys.
"Digon yw digon" meddai McMahon.
Mae cwmni easyJet wedi dweud bod yr aflonyddwch diweddaraf i hediadau "yn codi cwestiynau ynghylch gwydnwch systemau NATS".
Dywedodd y cwmni hedfan mewn datganiad: “Mae methiant system rheoli traffig awyr NATS yn ei chanolfan ym Mhrestwick yn achosi oedi i hediadau, gyda rhai yn methu â gweithredu.
“Unwaith eto, mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch gwydnwch systemau NATS ac yn dangos yr angen am gamau pendant i atal y methiannau hyn.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith ar ein cwsmeriaid ac yn cynghori unrhyw un sydd i fod i hedfan heddiw i wirio ein traciwr hediadau am y wybodaeth ddiweddaraf.”
Fe gadarnhaodd cwmni NATS mewn datganiad yn gynharach fod y broblem ym Mhrestwick bellach wedi ei adfer: "Rydym bellach yn gweithio gyda meysydd awyr a chwmnïau hedfan i godi’r cyfyngiadau ar draffig awyr yn ddiogel cyn gynted â phosibl, er mwyn lleihau unrhyw darfu pellach.
“Dylai teithwyr barhau i wirio statws eu hediad gyda’u cwmni hedfan.
“Ymddiheurwn am y tarfu.” meddai.
Llun: PA