Penodi Helen Jenner yn arweinydd newydd ar Reform yng Nghymru
Penodi Helen Jenner yn arweinydd newydd ar Reform yng Nghymru
Mae Reform UK wedi cadarnhau mai Helen Jenner yw arweinydd newydd y blaid yng Nghymru.
Bydd Ms Jenner yn olynu Dan Thomas, a wnaeth gamu i lawr fel arweinydd ddydd Mawrth diwethaf ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd rheolaethol neu orfodol.
Mae wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Cafodd Helen Jenner ei henwi’n arweinydd gan Nigel Farage, arweinydd y blaid yn San Steffan, mewn cyfarfod ym Mae Caerdydd ddydd Llun.
Cafodd ei dewis gan ei chyd-aelodau yn y Senedd yn dilyn cyfarfod o aelodau'r blaid.
Cafodd Ms Jenner ei hethol i’r Senedd yn yr etholiadau fis Mai, ac mae hi’n cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn.
Cafodd ei phenodi'n ddirprwy arweinydd ar y blaid ym mis Mai.
Mae hi hefyd wedi bod yn weinidog cysgodol dros addysg a'r iaith Gymraeg ar ran Reform.
Cafodd ei phenodi’n arweinydd dros dro ar y blaid yn y Senedd wythnos diwethaf yn dilyn ymddiswyddiad Mr Thomas.
Bydd Ms Jenner bellach yn arwain y grŵp gwrthbleidiol mwyaf yn y Senedd.
Yn ei ddatganiad yn cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd, dywedodd Dan Thomas: "Gyda thristwch mawr, rwyf bellach yn camu i lawr o’r swydd hon am resymau personol."
"Hoffwn bwysleisio nad wyf wedi gwneud dim byd o’i le, ond nid wyf am i’r penawdau sydd i ddod dynnu sylw oddi ar y gwaith gwych y mae ein tîm yn y Senedd yn ei wneud wrth ddal y llywodraeth hon i gyfrif.
“Byddaf yn parhau i wasanaethu fy etholwyr yng Nghasnewydd Islwyn ac yn cefnogi’n llawn pwy bynnag a ddewisir gan y grŵp fel ei arweinydd nesaf.”
Ychwanegodd ei fod wedi bod yn "anrhydedd fawr" i arwain Reform yng Nghymru.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am benodiad Ms Jenner, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Ni fydd newid yr arweinydd yn newid y broblem sylfaenol gyda Reform yng Nghymru.
"Yr wythnos diwethaf, gadawodd un o’u haelodau o'r Senedd y blaid, gan ddweud nad oedd hi (y blaid) ‘o ddifrif dros lywodraethu Cymru’ a’i chyhuddo o drin y Senedd fel cam tuag at uchelgais Nigel Farage o gyrraedd Downing Street.
"Mae Helen Jenner yn gefnogwr hirsefydlog i Farage, ac mae pobl yn haeddu gwybod beth fydd yn newid o dan ei harweinyddiaeth.
“Dim ond misoedd ar ôl etholiad y Senedd, mae Reform eisoes wedi gweld ei harweinydd yn ymddiswyddo ac un o’i haelodau yn gadael y blaid. Ynghyd â’r ymadawiadau o’i grwpiau cyngor yn Lloegr, mae hynny’n codi cwestiynau difrifol am ei sefydlogrwydd a’i gallu i gyflawni ar gyfer y bobl y mae’n eu cynrychioli.
“Mae pobl ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol ac yn haeddu arweinyddiaeth wleidyddol ddifrifol a sefydlog sy’n canolbwyntio ar eu blaenoriaethau.”
Lluniau: PA