‘Gweithred o garedigrwydd oedd werth y byd’: Dafydd Iwan yn cofio Jan Morris
Mae Dafydd Iwan wedi cofio sut y cafodd ef a’i deulu ifanc fyw yng nghartref Jan Morris heb dalu rhent, ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar.
Mae’r canwr a’r ymgyrchydd yn rhannu’r hanes mewn cyfres newydd am fywyd a gwaddol Jan Morris, sy’n cael ei darlledu wrth i ganmlwyddiant ei geni agosáu.
Wrth siarad â mab ieuengaf Jan Morris, Twm Morys, mae Dafydd Iwan yn cofio sut yr oedd ef a’i wraig Marian yn awyddus i ddychwelyd i Wynedd ar ôl iddo ddod allan o’r carchar.
“Pan des i allan o garchar, mi roedd Marian a fi yn benderfynol bod ni'n symud nôl i Wynedd i fyw," meddai ar raglen Chwedl Jan Morris a fydd yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul.
“Ac oedd y gair ar led, mae'n debyg, bod ni'n chwilio am dŷ, chwilio am gartref.
“A mi ddaeth yn newydd drwy Wil Sam, ein bod ni yn cael cynnig gan James Morris o bawb a'i briod.”
Cafodd y teulu fyw ar lawr uchaf Plas Trefan, cartref y teulu Morris ar lannau Afon Dwyfor.
“O'dd y peth fel breuddwyd,” meddai Dafydd Iwan.
“Croeso mawr gan dy dad a dy fam. Oddan nhw ddim yn myrryd dim â ni. Gadael llonydd i ni.
“Ag o'n ninne'n gadel llonydd iddyn nhw, ond bob hyn a hyn oddan ni'n cael rhyw sgwrs.
“Ag o'n i'n meddwl y byd ohonyn nhw.”
Dywedodd fod Jan Morris yn dangos “diddordeb mawr” yn y gymdeithas o’i chwmpas.
“Odd'i hagwedd hi'n rhyfeddol o ramantaidd ac eto'n gadarn iawn, gadarn iawn, ac, ac yn falch o be oedd yn digwydd yng Nghymru.”
‘Gweithred o garedigrwydd’
Ni ofynnodd Jan na’i phartner Elizabeth erioed i’r teulu dalu rhent yn ystod eu cyfnod yno.
Wrth gofio geiriau Jan yn ddiweddarach yn ei bywyd, pan ddywedodd mai caredigrwydd oedd y peth pwysicaf, dywedodd Dafydd Iwan:
“O'n i'n cofio am hyn, de. Achos mi oedd y weithred yna yn weithred o garedigrwydd oedd yn werth y byd i ni, de," meddai.
“Dwi'm yn deud bod y cyfnod 'di achub 'y mywyd i, ond mi, oddo'n gyfraniad aruthrol yn llawenydd ni fel cwpl ifanc.”
Mae’r hanes yn rhan o Chwedl Jan Morris, cyfres ddwy ran sy’n archwilio bywyd, gwaith a gwaddol Jan Morris drwy lygaid ei mab Twm Morys.
Yn y gyfres, mae Twm yn teithio drwy’r llefydd, y straeon a’r atgofion a luniodd fywyd Jan, o gartref y teulu ar lannau Afon Dwyfor i Fenis a Trieste.
“Sut beth ydy bod yn fab i rywun fel Jan? Yn fy mhrofiad i, mi oedd o'n debyg i fod yn fab i ryw gymeriad chwedlonol," meddai Twm.
Ganwyd Jan Morris yn Lloegr yn 1926, ond roedd ganddi gysylltiadau dwfn â Chymru, gwlad ei rhieni, a ddaeth yn rhan annatod o’i hunaniaeth.
Daeth yn un o awduron teithio mwyaf adnabyddus ei chyfnod, ac fel gohebydd i’r Times bu’n adrodd hanes cyrraedd copa Everest gan Edmund Hillary a Tenzing Norgay yn 1953.
Yn ddiweddarach, daeth hefyd yn ffigwr amlwg yn hanes pobl draws ar ôl iddi drawsnewid ei rhyw.
Mae’r gyfres yn edrych ar wahanol agweddau ar ei bywyd, gan gynnwys ei gyrfa, ei pherthynas â Chymru a’i bywyd teuluol gydag Elizabeth Morris.
‘Rhyfeddu at y byd’
Mae’r bardd a’r awdures Gwyneth Glyn, partner Twm Morys, hefyd yn cyfrannu at y gyfres.
Wrth gofio Jan, dywedodd: “Mae 'na lot o bobl yn sôn mor rhyfeddol oedd Jan fel person, ond i mi roedd Jan ei hun yn rhyfeddu at y byd ac yn ffeindio rhyfeddod yn y pethau mwyaf cyffredin rywsut, ac ella dyna oedd yn ei gwneud hi'n awdur mor doreithiog a gwych a hefyd yn gwmni mor ddifyr.”
Bu farw Jan Morris yn 2020 yn 94 oed.
Bydd Chwedl Jan Morris yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul am 20.00, ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.