Y Gymraeg wrth galon Y Mochyn Du wrth i enw'r dafarn ddychwelyd

Y Gymraeg wrth galon Y Mochyn Du wrth i enw'r dafarn ddychwelyd

Mae rheolwr Y Mochyn Du yng Nghaerdydd wedi dweud ei fod am i'r Gymraeg fod yn rhan amlwg o'r dafarn wrth i'r hen enw ddychwelyd wyth mlynedd ar ôl iddo gael ei newid.

Mae Matthew Martin, sy'n dod yn wreiddiol o Dde Affrica, wedi byw yng Nghymru ers 17 mlynedd ac mae bellach yn dweud ei fod am ddysgu Cymraeg ei hun wrth geisio cryfhau cysylltiad y dafarn â'r iaith.

Mae'r dafarn ar Heol Sophia ym Mhontcanna wedi ailagor yn dilyn gwaith adnewyddu, gyda'r enw Y Mochyn Du yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.

Daeth y dafarn yn adnabyddus dros y blynyddoedd fel man cyfarfod i siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, ac yno y cynhaliwyd Tafwyl am y tro cyntaf yn 2006.

Cafodd yr enw ei newid yn 2018 wedi i Brewhouse & Kitchen gymryd rheolaeth o'r dafarn.

Image
Matthew Martin
Matthew Martin, rheolwr Y Mochyn Du

Wrth drafod ei gynlluniau gyda'r perchennog dafarn cyn iddo gymryd yr awenau, dywedodd Mr Martin: "Y peth cyntaf faswn i'n ei wneud yw newid yr enw yn ôl i Y Mochyn Du, achos dyna beth mae pawb yn ei alw," meddai.

"Boed i yrrwr tacsi neu i'n ffrindiau i, Y Mochyn Du ydy o.

"Hyd yn oed os ydw i'n siarad â phobl mewn rhannau eraill o'r wlad am y dafarn yma, Y Mochyn Du maen nhw'n ei alw."

Mae Steffan Jones, sy'n gwsmer yn y dafarn, wedi croesawu'r penderfyniad i ddychwelyd at yr enw Cymraeg.

"O, mae e'n meddwl lot. Mae'n deimlad rili neis," meddai.

"Pan o'n nhw'n newid yr enw, ma'n teimlo bod ti yn yr ardal yn colli bach o Gymreictod, a wedyn maen nhw wedi gwrando ar gwsmeriaid a maen nhw'n newid yn ôl i'r enw Cymraeg."

Image
Steffan Jones
Steffan Jones sy'n falch o weld yr hen enw Cymraeg ar y dafarn 

Dywedodd fod yr hen enw wedi parhau i gael ei ddefnyddio ganddo fe hyd yn oed wedi iddo gael ei newid yn swyddogol.

"Mochyn Du oedd e trwy'r amser," meddai.

"Os ti'n newid unrhyw le, hyd yn oed pan ti'n meddwl am y rhai Saesneg fel Bannau Brycheiniog, mae rhai pobl dal i alw fe'n Brecon Beacons.

"Beth bynnag ti'n tyfu lan gyda, a fi 'di tyfu lan Mochyn Du. Na beth yw e'n mynd i fod i fi o hyd."

'Dwi eisiau dysgu'

Mae Mr Martin hefyd yn dweud bod y dafarn am wneud mwy i ddefnyddio'r Gymraeg, gan gynnwys cynnal gwersi i staff a nosweithiau lle gall pobl ddefnyddio'r iaith.

"Ry'n ni wir eisiau gwneud yr iaith yn rhan o'r lle," meddai.

"Ry'n ni wedi dechrau gwersi gyda'r staff, ac mae cyfle hefyd i gael gwersi Cymraeg a nosweithiau siarad Cymraeg lle gall pobl ddod yma a defnyddio'r iaith heb deimlo'n swil."

Dywedodd ei fod am greu awyrgylch lle nad oes rhaid i bobl boeni am wneud camgymeriadau wrth siarad Cymraeg.

"Mae pobl weithiau'n ofni siarad Cymraeg achos eu bod nhw'n poeni am ynganu rhywbeth yn anghywir neu roi'r geiriau yn y drefn anghywir," meddai.

"Ry'n ni eisiau creu lle lle gallwch chi ddod yma a siarad yr iaith. Os ydych chi'n ei chael hi'n anghywir, mae hynny'n iawn.

"Fi hefyd. Dwi eisiau dysgu, dwi eisiau bod yn rhan ohoni, a dwi eisiau ei chael hi'n iawn."

Hanes Y Mochyn Du

Cyn i'r dafarn gael yr enw 'Y Mochyn Du,' roedd yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel porthdy i Gastell Caerdydd ac yn ddiweddarach fel tafarn o'r enw The Poacher's Lodge.

Daeth yn Y Mochyn Du yn 2002, gyda'r enw yn deillio o gân werin draddodiadol o orllewin Cymru.

Am flynyddoedd, Gareth a Morfydd Huws oedd yn rhedeg y dafarn, ac fe ddaeth yn ganolbwynt amlwg i fywyd Cymraeg Caerdydd.

Roedd digwyddiadau Cymraeg a dwyieithog yn cael eu cynnal yno'n rheolaidd, gan gynnwys gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau i ddysgwyr.

Bu farw Gareth Huws ym mis Tachwedd 2024. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Côr y Mochyn Du.

Image
Y mochyn Du

Cartref cyntaf Tafwyl

Y Mochyn Du hefyd oedd cartref cyntaf Tafwyl.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu gan Menter Caerdydd yn 2006, gyda'r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar raddfa fach y tu allan i'r dafarn.

Daeth ychydig dros fil o bobl i'r digwyddiad cyntaf, cyn i Tafwyl dyfu dros y blynyddoedd a symud i leoliadau mwy yn y brifddinas.

Eleni, dathlodd yr ŵyl ei phen-blwydd yn 20 oed.

Cafodd Côr y Mochyn Du ei ffurfio yn 2008 hefyd, gan ychwanegu at gysylltiad y dafarn â'r Gymraeg a bywyd cymdeithasol Cymraeg y ddinas.

Enillodd y côr gystadleuaeth gorawl y pensiynwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol bum gwaith yn olynol rhwng 2010 a 2014, ac mae bellach yn perfformio dan yr enw Côr Hen Nodiant.

Mae dychweliad yr enw felly yn dod bron i chwarter canrif ar ôl i'r dafarn ddod yn Y Mochyn Du am y tro cyntaf.

Dywedodd Mr Martin mai'r bwriad bellach yw gweithio gyda grwpiau iaith a chynnal digwyddiadau wrth geisio ailgysylltu'r dafarn â'r gymuned.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.