Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff y gallai fod yn Gabby Petito

The Washington Post 20/09/2021
gabby petito

Mae swyddogion yn yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff yn nhalaith Wyoming y gallai fod yn Gabby Petito.

Fe ddiflannodd Ms Petito sy'n 22 mlwydd oed tra ar daith ar hyd y wlad gyda’i chariad ar 11 Medi, ac mae’r ymgais i ddod o hyd iddi wedi denu sylw rhyngwladol.

Yn ôl The Washington Post, mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod cariad Petito, Brian Laundrie, yn parhau ar goll ar ôl gwrthod siarad gyda’r heddlu wedi iddo ddychwelyd adref o'r daith ar ei ben ei hun.

Mewn cynhadledd i’r wasg nos Sul, cadarnhaodd swyddog yr FBI, Charles Jones, fod y corff a gafodd ei ddarganfod yn debyg i’r disgrifiad o Petito, ond nid yw achos y farwolaeth wedi ei benderfynu eto. 

Mae fideo a gafodd ei ryddhau'r wythnos diwethaf gan yr heddlu yn dangos stori arall i’r lluniau hapus roedd Petito a Laundrie yn eu rhannu ar-lein.

Mae’r fideo gan heddlu yn Utah yn dangos Petito yn crio wrth i swyddog traffig stopio hi a Laundrie, gyda Laundrie yn cadarnhau i’r swyddog ei fod ef a’i gariad wedi bod yn ffraeo.

Mae disgwyl cadarnhad swyddogol o’r corff maes o law.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.