Catalwnia: Cofeb newydd i Gymro a fu farw yn Rhyfel Cartref Sbaen
Mae cofeb newydd er cof am Gymro gafodd ei ladd tra'n ymladd lluoedd y Cadfridog Franco yn Sbaen wedi cael ei dadorchuddio yng Nghatalwnia.
Bu farw Harry Dobson o Donypandy yn Rhondda Cynon Taf ar ôl cael ei anafu tra'n ymladd gyda'r Brigadau Rhyngwladol yn ystod Brwydr Ebro ym 1938.
Roedd Harry yn löwr a deithiodd i Sbaen yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen i amddiffyn y Weriniaeth oedd wedi'i hethol yno'n ddemocrataidd.
Cafodd ei anafu'n angheuol ger Bryn 481 a bu farw o'i anafiadau ym mis Awst 1938.
Mae'r gofeb yn Sbaen yn rhan ddiweddar o waith rhyngwladol ar y cyd rhwng Catalwnia a de Cymru.
Cyswllt dros ffiniau
Dywedodd y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Roedd sefyll yng Nghatalwnia ar gyfer dadorchuddio'r gofeb er cof am Harry Dobson yn ennyd hynod ystyrlon; roedd yn atgoffâd pwerus o'r modd y gall treftadaeth gysylltu pobl ar draws ffiniau, cenedlaethau a chymunedau.
“Roedd Harry'n löwr o Donypandy, â'i wreiddiau yng nghymoedd dosbarth gweithiol y de a oedd wedi'u siapio gan galedi, undebau llafur a chydsefyll.
"Fe deithiodd i Sbaen oherwydd roedd o'r farn bod democratiaeth a rhyddid werth eu hamddiffyn ac mae ei stori'n un sy'n taflu goleuni o hyd ar ddewrder, cydsefyll a gwneud safiad er mwyn eraill.
“Mae'r gofeb yn symbol pwerus o'r cyfeillgarwch rhwng Cymru a Chatalwnia. Mae'n anrhydeddu bywyd Harry, ond mae hefyd yn cydnabod cyfraniad ehangach pobl gyffredin a safodd yn erbyn anghyfiawnder yn ystod un o gyfnodau tywyllaf Ewrop."
Ychwanegodd: "Rydw i'n falch bod gyda disgyblion o Ysgol Gymuned y Porth a'r gymuned leol ran mor bwysig i'w chwarae wrth siapio'r modd y bydd yr hanes yma’n cael ei chofio'n lleol, gan helpu i basio gwaddol Harry ymlaen i genhedlaeth newydd.
"Fe hoffwn i ddiolch i'n partneriaid yn Porta de la Història a Phrosiect Solidarity Park am eu hymrwymiad parhaus i'r cydweithrediad yma, ac am helpu i ofalu bod cyfraniad gwirfoddolwyr o Gymru'n parhau i gael ei gofio â chymaint o ofal a pharch."
'Carreg filltir'
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae dadorchuddio'r gofeb yma'n Sbaen yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith rhyngwladol ar y cyd yn ymwneud â threftadaeth, ac yn deyrnged bwerus i Harry Dobson, y glöwr o Donypandy y mae ei ddewrder yn parhau i fod yn berthnasol bron i 90 mlynedd yn ddiweddarach.
“Mae stori'n Harry'n ein hatgoffa ni bod pobl gyffredin o'n cymunedau wedi chwarae rhan eithriadol yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth ac anghyfiawnder.
"Fe adawodd Gwm Rhondda, nid er mwyn cael clod, ond oherwydd ei fod o'r farn bod democratiaeth a rhyddid werth eu hamddiffyn pryd bynnag yr oedden nhw dan fygythiad.
“Mae'r prosiect wedi helpu i gysylltu pobl ifainc, teuluoedd, haneswyr lleol, a, phartneriaid rhyngwladol, drwy gofio ar y cyd. Mae'n fodd o ofalu y bydd enw Harry Dobson, a'r gwerthoedd yr oedd yn sefyll drostyn nhw, yn parhau i gael eu cofio yng Nghymru a Chatalwnia fel ei gilydd."
Lluniau: Cyngor RhCT