Y Monopôl: Peilon trydan newydd wedi ei ddylunio 'i weddu tirwedd Cymru'
Mae cwmni ynni wedi rhyddhau lluniau o beilon 'monopôl' newydd sydd wedi ei ddylunio er mwyn ceisio gweddu tirwedd Cymru.
Mae'r monopôl yn tua 22 metr o uchder - sef tua hanner uchder peilon 275kV arferol meddai cwmni Green GEN Cymru.
Y disgwyl yw y bydd dyluniad cyntaf y monopôl fod yn barod ar ddechrau 2027.
Roedd y cwmni wedi bod yn destun protestiadau yn ne a gorllewin Cymru dros gynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o beilonau traddodiadol eu maint.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni fod y peilon monopôl newydd wedi’i gomisiynu gan dîm Green GEN Cymru (GGC) gyda thirwedd Cymru mewn golwg.
"Bydd bellach yn cael ei ystyried ochr yn ochr â pholion pren, strwythurau delltog dur a cheblau tanddaearol fel rhan o dechnolegau seilwaith GGC."
'Budd economaidd'
Dywed y cwmni eu bod yn "archwilio cyfleoedd i’r strwythurau gael eu gweithgynhyrchu a’u saernïo yng Nghymru, fel rhan o’i uchelgais i sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl i Gymru o fuddsoddi yn y seilwaith trydan newydd".
Mae’r monopôl yn strwythur un polyn sydd wedi’u dylunio i gludo capasiti sylweddol ar y rhwydwaith trydan, a hynny "mewn ffurf fain a chryno" .
"Gall eu hôl troed cymharol fach ar y ddaear helpu i gyfyngu ar y tir sydd ei angen yn ystod y gwaith adeiladu, tra bod eu ffurf wedi’i datblygu gyda’r nod o gyfyngu ar yr effaith weledol", ychwanegodd y cwmni.
Dywedodd Andrew Hardcastle, Cyfarwyddwr Gweithredol GGC: “Wrth i’r galw am drydan gynyddu, bydd angen mwy o gapasiti rhwydwaith ar Gymru i gysylltu cynhyrchu ynni newydd, cefnogi busnesau, cryfhau cymunedau, gwella cynhyrchiant a denu Buddsoddiad.
“Ein ffocws yw darparu’r seilwaith cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Nid oes un ateb seilwaith sy’n addas ar gyfer pob tirwedd neu gymuned. Ein rôl ni yw asesu a datblygu’n barhaus yr fath o dechnolegau sydd ar gael i ni, fel y gallwn ddewis yr ateb mwyaf priodol ar gyfer yr amgylchiadau sydd o’n blaenau.
“Mae datblygu monopôl, ochr yn ochr â’n defnydd presennol o bolion pren, strwythurau delltog dur a cheblau tanddaearol, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni ac yn helpu i sicrhau y gallwn ddarparu’r rhwydwaith trydan cydnerth sydd ei angen ar Gymru.”
'Cyfle gwirioneddol'
Dywedodd Stephen Rowlands, Pennaeth Adeiladu GGC: “Mae gan Gymru hanes balch o weithgynhyrchu a pheirianneg, ac rydym yn credu bod cyfle gwirioneddol i ddiwydiant Cymru chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu a chyflawni’r genhedlaeth nesaf o seilwaith trydan.
“Wrth inni ddatblygu’r monopôl ymhellach, rydym eisau fanteisio ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r gallu gweithgynhyrchu sydd gennym yma yng Nghymru. Ein huchelgais yw gweithio gyda busnesau Cymru a’r gadwyn gyflenwi ehangach i ddatblygu’r gallu hwnnw, cefnogi cyfleoedd gwerth uchel a sicrhau, wrth i fuddsoddiad yn rhwydwaith trydan Cymru gynyddu, fod mwy o’r budd economaidd yn cael ei gadw yma yng Nghymru.”
Llun: Bystrup/GGC