'Ddim eisiau chwarae hi’n saff’: Y ffrindiau tu ôl i gomedi newydd Gwagle

'Ddim eisiau chwarae hi’n saff’: Y ffrindiau tu ôl i gomedi newydd Gwagle

Creu comedi Cymraeg o’r math roedden nhw eu hunain eisiau ei wylio oedd nod Jac Northfield a Gwion Ifan wrth ysgrifennu eu cyfres newydd, Gwagle.

Mae’r ddau wedi ysgrifennu ac yn serennu yn y gyfres ar blatfformau digidol S4C, sy’n dilyn criw o ffrindiau drwy helyntion bywyd prifysgol.

Er bod rhai o’r sefyllfaoedd yn deillio o’u profiadau eu hunain, wedi i'r ddau gwrdd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r gyfres hefyd yn mentro i fyd y swreal.

“Ni bendant ddim eisiau chwarae hi’n saff,” meddai Gwion wrth Newyddion S4C.

“O’n i mo'yn i bobl edrych ar hwn a meddwl, ‘Mae hwnna’n rhywbeth ni erioed wedi gweld yn y Gymraeg o’r blaen'.”

Image
Gwagle

Ymhlith ysbrydoliaethau Jac a Gwion mae comedïau fel Spaced, The Mighty Boosh a The League of Gentlemen, yn ogystal â’r ffilm Human Traffic.

Roedd gweld cynyrchiadau am bobl ifanc yn gwneud iddo feddwl am greu rhywbeth tebyg yn Gymraeg.

“Sioeau a ffilmiau sy’n dilyn pobl oed ni. O’n i’n meddwl, ‘Waw, dwi ddim wedi gweld hyn o’r blaen'.”

Y nod oedd rhoi eu stamp eu hunain ar y math hwnnw o gomedi.

“Felly, o’r elfen abswrd a swreal yna, bendant rhoi stamp a marc ni ar hynny yn y Gymraeg,” meddai Gwion.

“Ni wedi bod yn hunanol iawn a chreu rhywbeth ar gyfer ni, a ni’n gobeithio, yn anhunanol, bydd pobl eraill moyn gweld e hefyd.”

Image
Emyr wyn
Yr actor Emyr Wyn sy'n chwarae rhan 'Tad Llew' yn Gwagle

Ymhlith yr actorion sy’n ymuno â nhw mae Emyr Wyn, sy’n chwarae tad Llew, cymeriad Gwion.

“Dyletswydd comedi, rwy’n teimlo, yw herio. Mae’n rhaid i gomedi herio ym mhob cyswllt,” meddai.

“A chi’n mynd i ypsetio pobl, a mae’n bwysig ypsetio rhai pobl. Mae’n bwysig gwneud pobl i chwerthin.”

Dywedodd Emyr Wyn ei fod wedi gweld rhywbeth arbennig yn y sgript pan gafodd gynnig y rhan tua dwy flynedd yn ôl.

“O’n i’n meddwl, mae rhywbeth sbesial gyda’r bois yma yn hwn," meddai. "Ac o’n i’n falch iawn i ddweud 'ie'.”

Wedi gweithio ar gomedi Gymraeg dros y degawdau, gan gynnwys cyfresi Caryl a Teulu’r Mans, mae Emyr Wyn yn dweud ei bod yn bwysig cynnig amrywiaeth i gynulleidfaoedd.

Image
Gwagle

“Mae’n bwysig cael ystod eang o gomedi sy’n gallu, gobeithio, apelio at gymaint o bobl â phosib." meddai.

“Ond yn fy marn i, dyma un o’r pethau doniola rwy wedi gweld ar bapur ers sbel.

“Mae’n ddoniol ar sgrin hefyd.”

Ysgrifennu dros FaceTime

Dyma’r tro cyntaf i Jac a Gwion ysgrifennu cyfres o’r fath, ac roedd dysgu sut i lunio sgript yn rhan o’r broses.

Gyda Gwion bellach yn byw yng Ngheredigion a Jac yn byw yng Nghaerdydd, roedd y ddau yn ysgrifennu golygfeydd ar wahân cyn cyfnewid eu gwaith, trafod beth oedd yn gweithio, a newid y jôcs.

“Fi’n sgwennu golygfa, Jac yn gwneud un, a wedyn swapo,” meddai Gwion.

“Gweld beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim yn yr olygfa. Lot o hynny.”

Image
Gwagle

Roedd ysgrifennu ar ôl dod adref o’r gwaith hefyd yn rhan o’r drefn.

“Oedd e’n hyfryd cael cyrraedd nôl o’r gwaith a jyst sgwennu lan gyda Jac yn fy stafell wely, dros FaceTime," meddai.

Mae rhai o’r syniadau’n deillio o’u profiadau eu hunain, neu bethau doniol y mae pobl wedi’u dweud wrthyn nhw.

“Oes, a dyn nhw ddim yn gwybod. Dyn nhw ddim yn cofio bod nhw wedi’i ddweud e,” meddai Gwion.

Roedd elfen o gystadleuaeth gyfeillgar rhwng y ddau hefyd.

“Ti jyst moyn profi i’n gilydd bod ni’n ddoniol, dyn ni?”

‘Mae’n bwysig codi gwên’

Er bod y stori wedi’i gosod ym myd y brifysgol, mae’r ddau’n gobeithio y bydd y profiadau’n taro tant â chynulleidfa ehangach.

Mae Gwion yn dweud bod y gyfres yn ymwneud â bod yn eich ugeiniau, “ac am fod yn ifanc a mwynhau dy hun, a’r trials and tribulations sy’n dod gyda hynny."

“A ddim yn gwybod beth wyt ti’n ei wneud,” ychwanegodd Jac.

“Achos da ni ddim yn gwybod beth da ni’n ei wneud, felly dyna beth da ni’n dangos.”

Fe wnaeth Emyr Wyn fwynhau'r profiad o weithio gyda'r ddau newydd ddyfodiaid i'r byd comedi. 

"Maen nhw'n griw ifanc talentog iawn a 'wy'n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am ofyn i hen fogey fel fi a Olwen Rees a Johnny Tudor a Joni Nef (Jonathan Nefydd) a nifer ohonon ni sy 'di cael gwahoddiad i roi ein, wel, fy ngwerth chwech i'r gyfres" 
Image
Gwagle
Gwion rhwng y ddau Johnny - Johnny Tudor (chwith) a Joni Nef (dde)

I Emyr Wyn, mae gwerth mewn rhoi cyfle i bobl chwerthin yng nghanol newyddion difrifol.

“Mae’n bwysig codi gwên, rwy’n credu,” meddai.

“Rwy’n gwybod bod y gyfres yma yn mynd i godi gwên ar lot o wynebau pobl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.