Gofalwyr di-dâl: Mwy na 1,500 yn y DU yn rhoi’r gorau i’w swyddi bob dydd

Gofalwyr

Mae elusen wedi amcangyfrif bod mwy na 1,500 o ofalwyr bob dydd ledled y DU yn rhoi’r gorau i’w swyddi er mwyn gofalu am rywun.

Yn ôl Carers UK, mae'r sefyllfa yn un "hynod bryderus".

Mae ei harolwg yn awgrymu bod cyfran y bobl sy’n gorfod rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu am rywun wedi codi ychydig ers lefelau cyn y pandemig.

Mae mwy o bobl hefyd bellach yn cyfuno swydd â chyfrifoldebau gofalu, meddai'r elusen.

Cafodd 4,000 o oedolion yn y DU eu holi ar-lein ym mis Gorffennaf ar gyfer yr arolwg.

Canfu’r arolwg fod un o bob pump (20%) o weithwyr yn gorfod cyfuno eu swydd â bod yn ofalwr di-dâl, o gymharu â 15% yn 2019.

Yn 2019, dywedodd 5% o'r ymatebwyr eu bod wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn llwyr er mwyn gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind oedd yn hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael. Roedd y ffigwr hwn yn 6% yn yr arolwg diweddaraf.

O blith y rhai sydd wedi rhoi’r gorau i’w swyddi i ofalu, roedd traean (34%) wedi gwneud hynny yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, o gymharu â 18% yn 2019.

Mae Carers UK yn dweud bod un o bob pump o oedolion y DU yn darparu gofal di-dâl, sy’n cyfateb i amcangyfrif o 11 miliwn o bobl.

Mae hynny'n gynnydd o tua dwy filiwn ers yr amcangyfrif o 8.8 miliwn yn 2019, meddai'r elusen.

Mae’r elusen yn amcangyfrif bod 3.33 miliwn o bobl wedi gadael eu gwaith i ofalu, gyda thua 1.1 miliwn wedi gwneud hynny yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae hynny’n cyfateb i fwy na 1,500 o bobl y dydd, o gymharu â thua 600 y dydd yn 2019.

'Pwysau wedi dwysáu’n sylweddol'

Dywedodd adroddiad diweddaraf yr elusen: "Mae cyfeiriad y duedd yn glir: mae’r pwysau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl wedi dwysáu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl yn cyrraedd pwynt lle nad yw cydbwyso gwaith a gofal yn gynaliadwy mwyach."

Mae Carers UK wedi galw ers tro am hawl statudol i absenoldeb â thâl i ofalwyr.

Ym mis Ebrill 2024, daeth hawl gyfreithiol i absenoldeb di-dâl i ofalwyr i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae hynny’n rhoi hawl i weithwyr sy’n gofalu am rywun gymryd hyd at wythnos o absenoldeb di-dâl bob 12 mis.

Ymgynghorodd y Llywodraeth ar gynlluniau i gyflwyno absenoldeb â thâl i ofalwyr ym mis Mehefin, yn ogystal â chynnig "hawl i ddychwelyd" i’r gwaith.

Dywedodd yr Adran Busnes a Masnach fod gofalwyr di-dâl sy’n teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i leihau eu horiau gwaith, gohirio dychwelyd i’r gwaith neu roi’r gorau i weithio’n gyfan gwbl yn costio tua £37 biliwn y flwyddyn i’r economi.

Gallai amddiffyniadau newydd arwain at filoedd o bobl â chyfrifoldebau gofalu yn dychwelyd i’r gwaith gyda mwy o hyblygrwydd a sicrwydd ariannol, ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.