Newyddion S4C

Ysgol filfeddygaeth gyntaf Cymru yn agor i fyfyrwyr

20/09/2021
Ysgol Filfeddygol Aberystwyth

Bydd yr ysgol filfeddygol cyntaf yng Nghymru yn agor ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf ddydd Llun.

Wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn cynnig gradd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol ac yn cael ei darparu ar y cyd gyda'r Coleg Milfeddygol Brenhinol.

Bydd y myfyrwyr ar y radd bum mlynedd yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.

Mae’r cwrs hefyd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Diwrnod arwyddocaol’

Yn ôl pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ymdrechion mawr wedi bod yn arwain i’r diwrnod hwn.

Dywedodd Yr Athro Darrell Abernethy: “Mae heddiw’n ddiwrnod hynod arwyddocaol a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y llwyddiant hwn – mae ymdrechion a chefnogaeth nifer fawr o bobl a sefydliadau wedi arwain at y diwrnod arwyddocaol hwn. 

“Wedi cymaint o waith caled gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn paratoi ar gyfer dechrau’r cwrs, mae’n deimlad gwych i weld ein myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd. Byddan nhw’n elwa’n fawr o sgiliau’r tîm staff newydd a’r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau newydd hyn.” 

Yn ôl y brifysgol, mae’r cwrs yn “cwmpasu’r ystod lawn o anifeiliaid”, gan gynnwys anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm.

Dywedodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: “Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Brifysgol Aberystwyth, i’r proffesiwn milfeddygol, ac i iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. 

“Mae'r clwstwr hwn – o addysg filfeddygol, ymchwil a rhagoriaeth - yn gyfle gwych i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt astudio mewn cyfleusterau sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i gyrraedd eu potensial llawn ac i ragori." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.