Gyrrwr a laddodd seren triathlon o Gymru yn colli ei apêl yn erbyn cael ei alltudio
Mae gyrrwr fan a laddodd y seren triathlon Rebecca Comins mewn gwrthdrawiad ger Rhaglan wedi colli apêl yn erbyn cael ei alltudio.
Cafodd Vasile Barbu o Rwmania, a oedd yn byw yn y Fenni adeg y gwrthdrawiad yn 2022, ei garcharu am bedair blynedd am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ym mis Mehefin 2024.
Mae wedi ei ryddhau o'r carchar erbyn hyn.
Roedd Barbu, sydd yn 52 oed, yn gyrru fan nad oedd yn addas i fod ar y ffordd ac a oedd hefyd wedi'i gorlwytho pan fu mewn gwrthdrawiad â Ms Comins.
Roedd y seiclwraig yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyda Chlwb Seiclo Sir Fynwy ar yr A40 ger Rhaglan.
Mewn tribiwnlys yng Nghasnewydd ddydd Llun, roedd Barbu yn apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref i'w alltudio.
Clywodd y gwrandawiad fod Barbu wedi symud i'r Deyrnas Unedig yn 2002 a bod ganddo ganiatâd amhenodol i aros yn y DU.
Roedd Barbu yn rhedeg tafarn ym mhentref Pandy ger y Fenni, ac ers gadael y carchar mae wedi bod yn gweithio fel cogydd.
Dywedodd y dyn 52 oed fod ganddo wraig a dau o blant sydd bellach yn oedolion, a bod ganddo gysylltiadau cryf â'r gymuned leol.
Gwrthododd Barnwr y Tribiwnlys, Ian Boyes, apêl Barbu a dyfarnu y dylai gael ei alltudio gan ei fod yn parhau i fod â “digon o gysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol i'w alluogi i ailintegreiddio i gymdeithas Rwmania”.
Dywedodd: “Nid oes unrhyw dystiolaeth bod yr apelydd yn ddibynnol ar ei blant sy'n oedolion, na'u bod nhw'n ddibynnol arno fe, y tu hwnt i'r cysylltiadau emosiynol arferol sy'n bodoli rhwng aelodau o deulu.
“Rwy'n fodlon y gall y perthnasoedd hynny barhau drwy ddulliau cyfathrebu modern.
“Rwy'n derbyn bod yr apelydd wedi integreiddio i ryw raddau yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol yn y DU oherwydd ei fod wedi byw yma am gyfnod hir.
“Fodd bynnag, nid wyf o'r farn bod yr integreiddio hwnnw'n sylweddol."
Ychwanegodd: “Ar sail y dystiolaeth, nid wyf yn fodlon bod yr apelydd wedi dangos ei fod wedi mynd i'r afael yn llawn â'r rhesymau dros ei ymddygiad troseddol.
“O ystyried difrifoldeb trosedd yr apelydd, mae budd cyhoeddus sylweddol iawn mewn ei alltudio.
“Rwyf o'r farn na fyddai'r penderfyniad i'w alltudio yn ymyrryd yn anghymesur â'i hawl i barch at ei fywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
“Mae'r budd cyhoeddus sylweddol iawn mewn alltudio yn drech nag ystyriaethau'r apelydd o ran ei fywyd preifat a theuluol.”
