Coedpoeth: 'Dyfais fflamadwy' wedi'i gosod mewn cerbyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyfais gael ei darganfod mewn cerbyd yn Wrecsam.
Derbyniodd y llu adroddiadau bod "dyfais fach fflamadwy" wedi ei gosod y tu mewn i ddarn o beiriant mewn lleoliad ar Heol y Talwrn yng Nghoedpoeth ddydd Iau, 10 Medi.
Chafodd neb ei anafu, ac mae'r ddyfais bellach gan yr heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Roberts: "Pe bai'r ddyfais wedi ffrwydro, gallai rhywun fod wedi'i anafu'n ddifrifol neu wedi'i ladd.
"Rydym ni'n cymryd y mater hwn o ddifrif ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, i gysylltu â'r heddlu.
"Mi fydd mwy o oruchwyliaeth yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i'r gymuned."
Llun: Google