Gwynedd: Pryder am ddiogelwch croesfan reilffordd ar ôl 'sawl digwyddiad agos'
Gwynedd: Pryder am ddiogelwch croesfan reilffordd ar ôl 'sawl digwyddiad agos'
Mae pryder am ddiogelwch croesfan reilffordd yng Ngwynedd ar ôl "sawl digwyddiad agos" o ganlyniad i fethiannau yn y system goleuadau a seiren sy'n rhybuddio cerbydau bod trên yn cyrraedd.
Dywedodd perchennog busnes yn Llanbedr, Meirionnydd, wrth Newyddion S4C fod y system rhybuddio heb weithio ers dros wythnos bellach.
Rhannodd Richard Workman fideo lle gwnaeth trên arafu wrth gyrraedd y groesfan ar ôl i fan geisio croesi'r cledrau o gyfeiriad Llanbedr i Fochras.
Network Rail sy'n gyfrifol am sicrhau bod y goleuadau a'r seiren yn gweithio. Dywedodd y cwmni wrth Newyddion S4C fod "llai o ddargludedd trydanol ar y cledrau" wedi golygu nad oedd y gylched sy'n canfod trenau wrth iddyn nhw agosáu at y groesfan yn gweithio'n gywir ar adegau".
"Croesfan agored â goleuadau rhybudd, heb rwystrau yw croesfan Talwrn Bach. Mae’n gweithio’n awtomatig, gyda’r goleuadau’n dechrau fflachio pan ganfyddir trên yn agosáu.
"Diogelwch defnyddwyr y groesfan a theithwyr ar drenau yw ein prif flaenoriaeth. Yn y lleoliad hwn, caiff y trenau sy’n agosáu eu canfod gan gylchred ar y trac.
"Fodd bynnag, oherwydd llai o ddargludedd trydanol, mae’r gylchred wedi bod yn rhedeg yn y drefn anghywir ar adegau. Lle mae hynny’n digwydd, mae’r system signalau’n rhybuddio’r trên sy’n agosáu, ac mae’n rhaid i’r gyrrwr gysylltu â’r signalwr cyn symud ymlaen."
"Pan fydd hynny’n digwydd, rhaid i yrwyr trên ddilyn proses ddiogelwch llym. Wrth i’r trên agosáu at y groesfan, rhaid i’r gyrrwr ei arafu’n sylweddol a’i stopio bron â bod ar y groesfan.
"Mae hyn yn caniatáu i’r gyrrwr wirio nad oes unrhyw gerbydau, cerddwyr na seiclwyr yn yr ardal cyn iddo symud y trên ymlaen yn ddiogel."
'Mater o amser'
Mae Richard Workman yn un o gyfarwyddwyr Maes Gwersylla Mochras ar Ynys Mochras, ac mae wedi dweud mai "mater o amser" yw hi cyn i rywun gael ei anafu'n ddifrifol neu farw.
"Wrth i chi ddod o Lanbedr tuag at Ynys Mochras a Maes Awyr Llanbedr, mae'r trên wedi'i guddio o'r golwg wrth i chi agosáu at yr orsaf a'r groesfan. Felly allwch chi ddim gweld y trên mewn gwirionedd.
"Rydych chi'n dibynnu ar y goleuadau, ac yn amlwg nid yw'r signalau hynny ar waith. Dydych chi ddim yn gweld y trên nes eich bod chi bron iawn ar y groesfan, a'i weld o'ch blaen chi, ychydig fetrau i ffwrdd."
Fe wnaeth Richard ffilmio fideo yn dangos trên yn arafu nes iddo ddod i stop ar y groesfan oherwydd bod fan wedi ceisio croesi'r cledrau.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ac mae gyrrwr y trên yn codi ei law mewn ymddiheuriad wrth i'r trên barhau ar hyd y cledrau.
Nid oes arwyddion i rybuddio gyrwyr a cherddwyr nad yw'r goleuadau a'r seiren yn gweithio, a does dim rhwystrau wedi eu gosod i atal cerbydau rhag gyrru dros y cledrau pan fydd trên yn dod.
Roedd cynlluniau wedi bodoli ers o leiaf 2016 i osod rhwystrau ar y groesfan, gyda Network Rail yn nodi yn 2016 ei fod yn bwriadu adnewyddu'r groesfan a'i newid i groesfan awtomatig gyda rhwystrau erbyn 2018.
Ni chafodd rhwystrau eu gosod ac, yn 2024, cadarnhaodd Network Rail nad oedd rhwystrau ar y groesfan, gan ddweud bod angen i ddefnyddwyr "fod yn barod i stopio pan fydd y goleuadau rhybudd yn gweithredu."
'Peryglus'
Mae'r diffyg rhybuddion am broblemau gyda'r goleuadau a'r seiren yn "beryglus", meddai Richard Workman.
"Bu bron i fan sgaffaldiau lleol wrthdaro â'r trên o fy mlaen i. Roeddwn i wedi cyrraedd pen fy nhennyn, mae'r nam wedi cael ei riportio sawl gwaith i Network Rail.
"Mae sawl digwyddiad agos wedi bod erbyn hyn, ac rwy'n gwybod hynny am ffaith achos rwyf i wedi ei weld gyda llygaid fy hun."
"Ac eto, does dim arwyddion na mesurau rhybuddio wedi cael eu rhoi ar waith i rybuddio'r cyhoedd.
"Mae'n mynd yn beryglus. Dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun gael ei anafu neu i gar daro'r trên. Dyma'r orsaf mae Network Rail wedi'i hanghofio, gallwch chi ddadlau.
"Mae'n cyrraedd y pwynt lle mae rhywun yn mynd i daro'r trên, ond pwy fydd ar fai? Mae'r arwyddion yno'n dweud bod y goleuadau i fod i weithio.
"Os nad yw'r goleuadau'n gweithio, siawns y dylai fod rhyw ffordd arall o rybuddio pobl?"
Dywedodd Network Rail eu bod nhw'n "treialu cylchred gwahanol ar y trac."
"Bydd gyrwyr yn aml yn chwifio at bobl sy’n aros wrth y groesfan, i gydnabod eu bod yn ymwybodol o’u presenoldeb, ac i gwblhau’r gwiriadau diogelwch terfynol sydd eu hangen cyn mynd ymlaen â’r daith.
"Rydym yn bwriadu treialu cylchred gwahanol ar y trac ac ystyried nifer o ddatrysiadau yng nghroesfan Talwrn Bach cyn bo hir, i benderfynu a ydynt yn gwella trefn y system rhybuddio. Os yw’r treial yn llwyddiannus, byddwn yn edrych ar ddisodli’r offer presennol yn barhaol cyn gynted ag y bo modd.
"Yn y cyfamser, gofynnwn i bawb sy’n defnyddio’r groesfan i barhau i’w defnyddio’n ofalus ac i ddilyn y goleuadau rhybudd. Bydd gyrwyr trên yn parhau i ddilyn y gweithdrefnau diogelwch gofynnol, gan ddynesu at y groesfan yn araf i sicrhau ei bod yn glir cyn mynd yn eu blaenau."