Endometriosis: 'Anoddach i gael triniaeth fel person traws'

Endometriosis: 'Anoddach i gael triniaeth fel person traws'

Mae person traws sydd yn byw ag endometriosis yn dweud bod cael triniaeth i’r cyflwr wedi bod yn anoddach oherwydd eu rhywedd. 

Cyflwr poenus lle mae meinwe debyg i leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o’r corff yw endometriosis.

Mae Emrys Price-Jones yn 29 oed o Sir Gaerfyrddin ac yn berson traws sydd yn byw â'r cyflwr oherwydd bod ganddyn nhw groth o hyd.

Maen nhw'n dweud ei fod yn anoddach iddynt gael triniaeth oherwydd bod meddygon yn cymryd yn ganiataol na allant fod â'r cyflwr endometriosis.

"Dwi’n berson traws. Ges i fy ngeni fel menyw ond do’n i ddim yn teimlo fel menyw," meddai Emrys wrth Newyddion S4C. 

"O’n i’n teimlo yn fwy fel anneuaidd neu fel ddyn, ond ma’ dal gen i uterus so yn anffodus dwi dal yn gallu cael endometriosis. Ond dwi’n credu ma fe wedi bod yn fwy galed i fi gael triniaeth oherwydd assumptions ma consultants ‘di neud."

Yn ôl Steph Richards o'r elusen TransLucent mae'r cyflwr yn dal i gael ei drin fel "mater gynaecolegol, er ei fod yn gyflwr sy’n gallu effeithio ar y corff cyfan". 

Roedd meddygon wedi awgrymu i Emrys iddynt gael triniaeth ar sail rhagdybiaethau meddai. 

"Wnes i fynd i weld gynaecologist a o’dd e ‘di dweud, 'Na dim endometriosis yw e, ond dod nol pryd ti isie sterilisation'. Ond o’n i ddim wedi gweud o’n i isie sterilisation achos assumption o’dd e oherwydd pwy o’n i," meddai. 

"O’n i’n teimlo fod llawer waith ma’ pobl wedi siarad i gŵr fi a dros pen fi a o’n i fel ‘apwyntiad fi yw e a triniaeth fi, dim unrhyw un arall’."

Disgwyl am driniaeth 

Mae Emrys yn dweud eu bod nhw wedi bod yn aros ers tair blynedd am help.

Yng Nghaerfyrddin mae Emrys yn byw, sy'n golygu mai Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n gyfrifol am eu gofal.  

Yn ôl Emrys, gofynnodd am gael eu cyfeirio at arbenigwyr yng Nghaerdydd, ond cafodd y cais ei wrthod gan nad ydynt yn byw yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw. 

Maen nhw hefyd wedi codi pryderon am ddyfodol y ganolfan arbenigol yng Nghaerdydd. Er hynny mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud wrth Newyddion S4C nad oes unrhyw fwriad i'w chau.

"Hoffem ddarbwyllo cleifion nad oes yna unrhyw gynlluniau i roi'r gorau i ddarparu triniaeth Endometriosis arbenigol ar gyfer cleifion yng Nghaerdydd a'r Fro," meddai'r bwrdd iechyd. 

Ddwy flynedd yn ôl, fe aeth Emrys i Ysbyty Glangwili sawl gwaith gyda phoen difrifol. Mae Emrys yn dweud fod meddygon wedi dweud wrthynt yn wreiddiol mai Cerrig yr Arennau (kidney stones) oedd yn achosi hyn.

Maen nhw'n dweud iddynt gael atgyfeiriad gan eu meddyg teulu i fynd i weld gynaecolegydd. Roedd yn rhaid iddynt aros chwe mis i weld y gynaecolegydd cyn cael “apwyntiad byr iawn”.

Fe ddywedodd y gynaecolegydd wrthynt nad endometriosis oedd y cyflwr oedd arnynt meddai Emrys. Er mwyn bod yn siŵr am hyn, fe gafodd Emrys sgan MRI ond maen nhw'n dweud iddynt orfod aros 12 wythnos am y canlyniadau.

“Ges i’r canlyniadau ar bapur yn gyntaf ag o’n i’n gallu gweld o’dd adhesions ar y bledren, coluddyn, uterus, a wedyn ges i lythyr gan y Consultant yn dweud o’dd adhesions ‘na ond ma’ nhw’n gallu digwydd am unrhyw reswm a o’dd e dal ddim yn credu mai endometriosis o’dd e,” meddai.

"O’n i dal yn teimlo rili drist achos i fi o’dd e’n swnio fel deep-infultrating endometriosis. So nes i fynd a thalu i weld arbenigwr yng Nghaerdydd, a mewn pum munud o’dd e ‘di dweud, wrth edrych ar y canlyniadau fod e’n deep-infultrating endometriosis ac hefyd Adenomyosis. So o’n i’n rili grac bod dau ddiagnosis wedi cael eu methu yn Glangwili."

Anodd 'sefyll mewn rhes' 

Mae Steph Richards yn dweud iddi synnu pa mor hir mae'n rhaid i gleifion endometriosis aros er mwyn cael triniaeth. 

Mae'n berson traws ac roedd hi'n arfer bod yn brif weithredwr gyda'r elusen Endometriosis South Coast. 

Fe wnaeth hi ddioddef trawsffobia nes yn y diwedd roedd yn rhaid iddi adael ei swydd gyda'r elusen Endometriosis South Coast meddai. 

"Mae’n amlwg yn ofnadwy o anodd i ddyn traws, nid cymaint i fynd at y meddyg am apwyntiad un-i-un, ond i fynd i glinig gynaecoleg. 

"Ac mae endometriosis yn dal i gael ei drin fel mater gynaecolegol, er ei fod yn gyflwr sy’n gallu effeithio ar y corff cyfan, gan gynnwys yr ymennydd ac, yn wir, yr ysgyfaint — mae hynny’n cael ei alw’n endometriosis thorasig.

"Felly, dach chi’n gwybod, mae sefyll mewn rhes gyda llawer o fenywod yn gallu bod yn anodd iawn," meddai.  

Image
Steph
Mae Steph Richards yn gweithio i elusen TransLucent

Dyw ceisio cael help fel person traws i faterion iechyd ddim yn hawdd meddai.

"Mae mynd i’r ysbyty yn gallu bod yn anodd iawn i bob person traws, yn enwedig ers dyfarniad y Goruchaf Lys, achos mae yna bosibilrwydd y gall eich hunaniaeth draws gael ei datgelu.

"Dach chi’n gwybod, fel menyw draws sydd wedi cael llawdriniaeth, fe fyddwn i, mewn egwyddor, yn cael fy rhoi gyda dynion, a byddai hynny’n fy arswydo."

Mae Emrys eisiau gweld arbenigwyr ym mhob bwrdd iechyd, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

"Dwi’n teimlo fel mae’r safon gofal endometriosis yn postcode lottery achos dwi’n byw yng Nghaerfyrddin, ma' 'na ddim endometriosis specialist yn Hywel Dda so ma raid i fi fynd i rywle fel Abertawe, neu Caerdydd i weld rywun,” meddai.

"Hefyd y consultants, ma nhw ddim yn gwbod llawer ambiti endometriosis a beth yw fel y red flag symptoms ond os o’n i’n byw yng Nghaerdydd, byddai’n gallu gweld rhywun sydd yn gwbod beth ma nhw’n siarad ambiti. Efallai fod y rhestrau aros ddim mor hir i weld rhywun a dwi’n meddwl bod e yn postcode lottery."

Image
Emrys
Mae Emrys Price-Jones yn 29 oed ac o Sir Gaerfyrddin 

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn benderfynol o gryfhau Cynllun Iechyd Menywod GIG gan helpu i leihau'r oedi wrth wneud diagnosis a dechrau triniaeth ar gyfer cyflyrau fel endometriosis. 

“Rydym wrthi'n datblygu rhaglen waith i wella'r llwybr gofal ar draws gwasanaethau sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Bydd yn cynnwys gwella sgiliau'r gweithlu er mwyn helpu staff i adnabod symptomau'n gynt, a gwella mynediad at asesiadau a thriniaeth er mwyn lleihau'r amser aros am ddiagnosis ledled Cymru.”

Achosion cymhleth 
 
Yn ôl Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda does dim modd i'r bwrdd wneud sylwadau am achosion unigol. 
 
"Fodd bynnag, rydym bob amser yn drist o glywed pan nad yw claf yn hapus â'r gwasanaeth y mae wedi'i dderbyn yn ystod ei amser gyda ni."
 
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod yn darparu gwasanaethau gynaecoleg ar gyfer diagnosis a rheoli endometriosis.
 
"Os na ellir trin achosion cymhleth o endometriosis o fewn ein bwrdd iechyd ni ein hunain, mae gennym gytundeb gyda’n hawdurdod iechyd cyfagos, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Nhw yw’r ganolfan agosaf sydd wedi’i hachredu gan Cymdeithas Brydeinig Endosgopi Gynaecolegol ar gyfer endometriosis ac sy’n derbyn ein cleifion sydd ag achosion mwy cymhleth," ychwanegodd y bwrdd iechyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.