Yfed te a choffi poeth yn gallu cynyddu'r risg o ganser yr oesoffagws

Llun: Anthony Devlin/PA
Tê a thebot

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod yfed diodydd fel te a choffi yn rheolaidd pan maen nhw'n boeth iawn yn cynyddu'r risg o ganser yr oesoffagws.

Dyma'r ymchwil mwyaf o'i fath ac fe gafodd ei ariannu gan Cancer Research UK.

Mae astudiaethau yn y gorffennol wedi nodi cysylltiad rhwng diodydd poeth a chanser yr oesoffagws, ond dyma'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr sydd wedi'i gwneud.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr edrych ar ddata gan tua 980,000 o oedolion ar draws Prydain. Fe wnaethon nhw ddarganfod tystiolaeth glir o gysylltiad rhwng diodydd poeth a chanser yr oesoffagws, ond mae'r risg ar y cyfan yn fach.

Yn yr astudiaeth gan Brifysgol Rhydychen, roedd gan bobl a ddywedodd eu bod yn mwynhau diodydd poeth tua 1.7 gwaith yn fwy o risg o ddatblygu canser.

Roedd gan y rhai oedd yn yfed diodydd poeth iawn tua thair gwaith yn fwy o risg o gymharu â'r rhai a ddywedodd eu bod yn yfed diodydd cynnes.

Roedd yfed chwech neu fwy o ddiodydd poeth y dydd hefyd yn cynyddu’r risg o gymharu ag yfed llai na chwech.

Mae'r ymchwil yn diffinio unrhyw ddiod sydd ar dymheredd o 65 gradd selsiws neu’n uwch fel un “poeth iawn” a allai beri risg.

Mae arbenigwyr yn dweud bod gadael i ddiodydd oeri ychydig neu ychwanegu llaeth oer yn gallu lleihau'r risg.

Y ddau brif fath o ganser yr oesoffagws yw adenocarsinoma a charsinoma celloedd cennog (SCC).

Yn ôl Fiona Osgun, pennaeth gwybodaeth iechyd Cancer Research UK: “Er bod y risg o gael diagnosis o’r math hwn o ganser yn parhau’n gymharol isel yn y DU, mae’r ymchwil hwn yn ychwanegu at y dystiolaeth y gallai yfed diodydd poeth iawn gynyddu’r risg o garsinoma celloedd cennog yr oesoffagws.

“Ond mae un cam syml y gall pobl ei gymryd – gadael i baned o de neu goffi oeri ychydig cyn cymryd llymaid.

“A’r ffyrdd pwysicaf o leihau’r risg o’r math hwn o ganser yw peidio ag ysmygu a lleihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed.”

Yn gyffredinol, mae tua 9,500 o achosion o ganser yr oesoffagws ym Mhrydain bob blwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.