Cwest: Cyflwr dyn 102 wedi dirywio 'ar ôl torri ei glun mewn ymosodiad honedig'
Mae cwest i farwolaeth dyn 102 oed oedd â dementia, a fu farw yn dilyn ymosodiad honedig arno mewn tafarn, wedi clywed fod ei gyflwr wedi dirywio ar ôl iddo dorri ei glun.
Bu farw Philip Ormerod o Gwmbrân yn yr ysbyty ar 12 Awst yn dilyn y digwyddiad yn nhafarn y Crow’s Nest yn y dref ar 1 Awst.
Roedd Mr Ormerod wedi ymweld â’r Crow’s Nest am ddiod pan aeth ar lwyfan yn y dafarn i gwyno am swn y gerddoriaeth.
Clywodd gwrandawiad agoriadol cwest yn Llys Crwner Gwent ddydd Llun fod y dyn 102 oed wedi syrthio yn y dafarn "yn dilyn honiad ei fod wedi cael ei wthio".
Dywedodd y prif grwner, Caroline Saunders, fod Mr Ormerod wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl torri ei glun.
Er iddo dderbyn triniaeth feddygol, gwaethygodd ei gyflwr ac fe gafodd ei farwolaeth ei gadarnhau ar 12 Awst, yn ôl y dystiolaeth yn y gwrandawiad byr.
Dywedodd y crwner fod Mr Ormerod, oedd wedi ei eni ym 1923, wedi gweithio gynt fel peiriannydd dylunio.
Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei adnabod gan ei fab, Robert.
Bydd cwest llawn i'w farwolaeth yn cael ei gynnal fis Mai nesaf.
Dywedodd Heddlu Gwent yn dilyn ei farwolaeth fod dyn 56 oed o Lanelli wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn y digwyddiad.
Mae’n parhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y crwner: "Bydd y cwest yn cael ei ohirio’n ffurfiol nes bod yr ymchwiliadau troseddol hynny wedi dod i ben."