Cadw'r cyn-bêl droediwr Joey Barton yn y ddalfa tan ei achos llys yn 2027

Joey Barton

Fe fydd y cyn-bêl-droediwr Joey Barton yn parhau yn y ddalfa tan ei achos llys y flwyddyn nesaf, ar ôl i'w gais am fechnïaeth gael ei wrthod ddydd Llun.

Roedd disgwyl i’r dyn 44 oed wynebu achos yn Llys y Goron Lerpwl yr wythnos diwethaf, wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol i Kevin Lynch, 51 oed, yn Fairway, Huyton, ar 8 Mawrth.

Ond, ddydd Mercher, gohiriwyd yr achos a’i symud i fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth Barton ymddangos drwy gyswllt fideo o HMP Lerpwl mewn gwrandawiad ddydd Llun, pan wrthododd y Barnwr David Potter gais newydd am fechnïaeth.

Ysgwydodd ei ben wrth i’r barnwr ei anfon yn ôl i’r ddalfa.

Bydd cyn gwrandawiad cyn yr achos llys yn cael ei gynnal ar 11 Rhagfyr.

Fe fydd ei achos union flwyddyn ar ôl yr ymosodiad honedig, sy'n golygu y bydd y diffynnydd wedi treulio 12 mis yn y ddalfa.

Mae Barton wedi ei gyhuddo o gyflawni'r ymosodiad ar Mr Lynch ar ôl iddynt fod yn yfed gyda'i gilydd yng Nghlwb Golff Huyton a Prescot.

Mae'r erlyniad yn honni fod Mr Lynch sy'n gyn-reolwr pêl-droed yn yr is-gynghreiriau,  a sylfaenydd yr ysgol addysg arbennig NexGen Academy, wedi dioddef anafiadau difrifol i'w lygad.

Mae Barton, cyn-chwaraewr canol cae Manchester City a QPR sy'n dod o Widnes yn Sir Caer, wedi ennill un cap dros Loegr ac wedi chwarae hefyd i Newcastle, Rangers, Burnley a Marseille

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.