Pêl-droed: Ashley Williams ac Alan Sheehan yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru
Bydd Ashley Williams ac Alan Sheehan ac yn ymuno â thîm hyfforddi Craig Bellamy cyn yr ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA fel Hyfforddwyr Cynorthwyol.
Cynrychiolodd Williams Gymru 86 gwaith a bu’n gapten ar y tîm yn ystod bencampwriaeth Euro 2016, pan gyrhaeddodd Cymru’r rownd gynderfynol.
Mae gan Williams Drwydded A UEFA ac yn ddiweddar mae wedi bod yn hyfforddi gyda thimau iau Cymru.
Roedd Sheehan, Hyfforddwr Trwydded Pro UEFA, yn Brif Hyfforddwr CPD Dinas Abertawe yn 2025 ar ôl cyfnodau fel Prif Hyfforddwr Dros Dro.
Cyn hynny roedd yn Hyfforddwr Cynorthwyol gydag Abertawe, Southampton a Luton.
Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, chwaraeodd Sheehan dros 400 o weithiau ar draws cynghreiriau Lloegr ac enillodd pump o gapiau ar lefel D21 i’r Weriniaeth Iwerddon.
Bydd James Rowberry yn camu i lawr o’i rôl o fewn y tîm hyfforddi oherwydd ymrwymiadau gwaith.
Bydd Andrew Crofts yn parhau yn ei rôl fel Hyfforddwr Cynorthwyol yn dilyn ei benodiad diweddar yn Tottenham Hotspur fel Prif Hyfforddwr Cynorthwyol i Roberto De Zerbi.
Mae tîm Craig Bellamy yn wynebu ymgyrch gyffrous yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop yng Nghynghrair A, gyda gemau yn erbyn Portiwgal, Norwy a Denmarc.
Bydd yr ymgyrch yn dechrau oddi cartref yn erbyn Portiwgal a Denmarc cyn dwy gêm gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Norwy (dydd Iau 1 Hydref) a Denmarc (dydd Sul 4 Hydref).
Cyn y gemau dros y mis nesaf, bydd Craig Bellamy yn cyhoeddi ei garfan am 10:30 ar ddydd Mawrth 15 Medi.