Pedwar o ofodwyr amatur wedi dychwelyd o’r gofod
19/09/2021
Mae criw o ofodwyr amatur wedi dychwelyd i'r Ddaear yn dilyn taith i'r gofod yn gynharach yn yr wythnos.
Glaniodd y criw yng Ngefnfor yr Iwerydd ddydd Sadwrn oddi ar arfordir Fflorida.
Aeth pedwar o deithwyr o amgylch y byd mewn capsiwl SpaceX heb arbenigwr ddydd Mercher.
Dyma’r tro cyntaf i grŵp o bobl gwblhau cylch llawn o gwmpas y byd heb ofodwr proffesiynol.
Yn ôl The Guardian, gwnaeth Elon Musk, sylfaenydd SpaceX, dalu miliynau o bunnoedd iddo ef a’r tri pherson “cyffredin” arall deithio heb arbenigwr.
Darllenwch y stori yma.
Llun: Space X