Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali'r Ffindir
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y trydydd safle ar ddiwedd diwrnod llawn cyffro iddo yn Rali'r Ffindir.
Roedd Evans yn yr ail safle tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc ar ddiwedd ail ddiwrnod y rali nos Wener.
Ond ar ail gymal ddydd Sadwrn fe wnaeth y car droi drosodd sawl gwaith a bu’n rhaid i Evans gael cymorth y cefnogwyr i gael ei gar nôl ar y ffordd.
Fe gollodd dipyn o amser gan gwympo i’r bumed safle.
Ond fe lwyddodd i ddringo i’r trydydd safle erbyn diwedd cymalau ddydd Sadwrn ac ef oedd y cyflymaf ar gymal ola’r dydd.
Fe fydd y rali’n dod i ben ar ôl dau gymal ddydd Sul.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2083599132149588143
Llun: X/Elfyn Evans