Miloedd o swyddi Jaguar Land Rover yn y fantol

Jaguar Land Rover

Mae disgwyl i gwmni Jaguar Land Rover gyhoeddi toriadau i filoedd o swyddi fel rhan o gynllun diswyddo gwirfoddol, gyda'r bwriad o arbed £1.7 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Y gred yw bod y cwmni yn cyhoeddi'r manylion gyda'r gweithwyr fore dydd Llun, yn sgil adroddiadau y bydd yn cyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar 4,000 o swyddi i gyd.

Mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, Jonathan Reynolds, eisoes wedi diystyru unrhyw gymorth ariannol gan y llywodraeth i Jaguar Land Rover, sef gwneuthurwr ceir mwyaf Prydain.

Mae wedi siarad â Phrif Weithredwr Jaguar Land Rover, PB Balaji, ac mae'n gobeithio cyfarfod gydag arweinwyr y cwmni yn gynnar yr wythnos hon gyda'r nod o "liniaru unrhyw golledion swyddi".

Fe wnaeth Jaguar Land Rover gadarnhau mewn datganiad dros y penwythnos ei fod yn dechrau rhaglen diswyddo gwirfoddol a fydd yn cynnig cyfle i aelodau'r tîm cyflogedig a'r tîm rheoli i adael y busnes.

Mae'n ymddangos na fydd y toriadau'n effeithio ar swyddi sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu.

Bydd y rhan fwyaf o'r toriadau yn effeithio ar fusnes y cwmni yn y DU, lle mae tua 34,000 o staff yn gweithio.

Mae ychydig o dan 10,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan y cwmni dramor.

Dywedodd y gweinidog Trysorlys Emma Reynolds fod cwmnïau ceir ledled y byd yn wynebu sefyllfa "gystadleuol iawn yn fyd-eang".

Mae cwmnïau Ewropeaidd wedi cael trafferth ymdopi â chystadleuaeth gan gwmnïau ceir o Tsieina, sy'n cynhyrchu cerbydau trydan rhatach.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.