Rheolwr Portsmouth yn ymddiheuro i Gaerdydd ar ôl digwyddiad gyda chefnogwyr
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Portsmouth, John Mousinho, wedi ymddiheuro i chwaraewyr Caerdydd ar ôl digwyddiad gyda chefnogwyr ddydd Sadwrn.
Yn ystod ail hanner y gêm yn Fratton Park, cafodd amddiffynnwr Caerdydd, Krystian Bielik, ffrae gydag un o'r cefnogwyr wrth iddo geisio gasglu'r bêl.
Honnodd rheolwr yr Adar Gleision, Brian Barry-Murphy, ar ôl y gêm, fod Bielik wedi "cael slap yn ei wyneb", tra bod fideos ar-lein yn awgrymu fod Bielik yn ymddangos fel petai'n gafael yng ngorff y cefnogwr ifanc.
Roedd sawl cefnogwr Portsmouth yn gwneud ystumiau oedd yn awgrymu eu bod nhw'n credu bod Bielik wedi gafael yng ngwddf y cefnogwr.
Wedi'r digwyddiad, taflodd cefnogwr arall y bêl at ben amddiffynnwr Caerdydd, Perry Ng.
Fe gafodd y ddau gefnogwr orchymyn i adael y stadiwm.
Enillodd Portsmouth y gêm 2-0, a dywedodd eu rheolwr ar ôl y gêm ei fod yn ymddiheuro i chwaraewyr Caerdydd am y digwyddiad gyda chefnogwyr.
"Dywedodd y dyfarnwr fod digwyddiad pan aeth Krystian i 'nôl y bêl, a'i fod wedi cael ei daro gan un o'r cefnogwyr," meddai John Mousinho.
"Doedd e ddim yn ddigwyddiad da. Roeddwn i wedi ei weld ar ôl hynny ac mae'n iawn, ond nid dyna'r pwynt, nid yw hynny'n dderbyniol.
"Rydym ni eisiau creu awyrgylch anodd i wrthwynebwyr yma, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny dros y blynyddoedd.
"Weithiau mae'n mynd rhy bell, dwi'n deall hynny, ond dwi ddim yn meddwl bod angen iddo fynd i'r fath raddau.
"Rydym yn ymestyn ein hymddiheuriadau i'r chwaraewyr ac i Gaerdydd ac yn sicrhau ein bod ni'n ceisio atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto."
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn dweud eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn adolygu'r manylion yn adroddiad y dyfarnwr o'r gêm cyn gwneud penderfyniad ar gamau disgyblu.
'Annerbyniol'
Dywedodd rheolwr Caerdydd, Brian Barry-Murphy, fod y digwyddiad yn "annerbyniol", gan ganmol y dyfarnwr a'r dyfarnwyr cynorthwyol am eu hymateb.
"Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod Krystian wedi ei ddiogelu a'i fod yn iawn," meddai.
"Dwi'n credu bod y dyfarnwr a'i staff wedi delio â'r digwyddiad yn ddi-fai.
"Dwi'n credu bod y chwaraewyr yn gorfod delio â gwahanol bethau - mae'n annerbyniol yr hyn sy'n digwydd.
"Nid ydyn nhw'n disgwyl y fath yna o driniaeth. Fy swydd i yw amddiffyn y chwaraewyr, ond y gwir yw - fy ffocws yw ceisio sicrhau ein bod ni'n chwarae'n dda ac yn ennill."