Camgymeriadau yn anochel medd Nigel Farage wrth gloi cynhadledd Reform

Nigel Farage

Fe fydd Reform UK yn gwneud camgymeriadau, meddai Nigel Farage wrth iddo gloi cynhadledd ei blaid yn Birmingham brynhawn Sadwrn. 

Mae'r ffrae ynglyn â rhoddion ariannol wedi taflu cysgod dros y gynhadledd ar ôl i adran newyddion Channel 4 ddarlledu sgyrsiau oedd wedi eu ffilmio'n gudd, lle roedd hi'n ymddangos fod dau o swyddogion y blaid yn trafod ffyrdd o osgoi cyfreithiau etholiadol wrth geisio derbyn rhodd o America.  

Mae Mr Farage wedi gwadu fod Reform UK wedi torri unrhyw gyfraith na derbyn "unrhyw arian amheus." 

Fore Gwener, cyhoeddodd Reform fod y ddau swyddog dylanwadol a oedd yn y darllediad, James Orr a Dan Jukes, wedi camu o'r neilltu wrth aros am ganlyniad ymchwiliad y blaid i'r honiadau ar raglen Channel 4 News nos Iau.

Mae pleidiau eraill wedi cysylltu â'r heddlu yn dilyn yr honiadau bod Reform wedi derbyn cyllid gan gwmni o'r Unol Daleithiau ar gyfer cynnal tri arolwg barn, a gostiodd £32,500.

Nid yw cwmnïau tramor yn cael rhoi rhoddion i bleidiau yn y DU - gan gynnwys taliadau am astudiaethau ac ymchwil - ac fe allai hynny fod yn drosedd.

Image
Nigel Farage yn cael ei ffilmio'n gudd gan grŵp ymchwil Verbatim
Nigel Farage yn cael ei ffilmio'n gudd gan grŵp ymchwil Verbatim

Gohebwyr cudd o'r grŵp ymchwil Verbatim oedd y rhai oedd yn rhoi'r arian, gan esgus bod yn rhoddwr ariannol Americanaidd oedd â mab yn byw yn y DU.

Mae arweinydd Reform, Nigel Farage wedi mynnu trwy gydol y gynhadledd nad yw Reform wedi gwneud unrhyw beth o'i le.  

Ond mae Mr Farage wedi cyfaddef wrth gwmni ITV y gallai'r sgandal boeni rhai etholwyr.

Er hynny, wrth gloi'r gynhadledd brynhawn Sadwrn, roedd Mr Farage yn ymddangos yn fwy cadarnhaol. 

Dywedodd wrth y cynadleddwyr: "Bydd cyfnodau ar y daith hon pan fydd dyddiau da a dyddiau anodd.  

"Yn aml, bydd pethau annheg yn cael eu taflu atom.

"A weithiau, byddwn yn gwneud camgymeriadau, weithiau fe gewn ni ein ceryddu am hynny. 

"Ond yr hyn mae'r gynhadledd hon wedi ei dangos ydy, be bynnag y taflwch at yr arweinyddiaeth, be bynnag y byddan nhw yn ei daflu atoch chi - byddin y bobl, byddwn ni yn codi eto."

Roedd Mr Farage ei hun yn ymddangos yn y darllediad ar Channel 4 wrth iddo gyfarfod â'r rhoddwr ariannol ffug.  

Wrth siarad â'r BBC ddydd Sadwrn, honnodd ei fod yn deall y gyfraith ym maes rhoddion yn well nag unrhyw un arall, ac ychwanegodd nad oedd yn "gwrando" adeg y cyfarfod yn Clacton, pan ddigwyddodd y ffilmio cudd. 

Yn ei gyfweliad ag ITV, mynnodd Mr Farage nad oedd wedi ystyried ymddiswyddo fel arweinydd Reform UK, ond cyfaddefodd fod aelodau o'i deulu yn awyddus iddo roi'r gorau iddi.  

Dan Thomas

Amser cinio yn y gynhadledd, roedd arweinydd Reform yng Nghymru yn annerch y cynadleddwyr. 

Dywedodd Dan Thomas fod yr hyn mae ei blaid wedi ei gyflawni yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Senedd ym Mae Caerdydd yn "anhygoel."

Ychwanegodd fod Reform yng Nghymru mewn sefyllfa gref i helpu Nigel Farage i sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn San Steffan. 

Byddai hynny, meddai yn rhoi "mandad iddo weithredu'r cynllun mwyaf uchelgeisiol" y mae'r DU erioed wedi ei weld.       

Cyfeiriodd Dan Thomas at record ei blaid ei hun ers mis Mai, wrth iddyn nhw ennill cefnogaeth i dri chynnig yn y Senedd , ar glefyd TB mewn gwartheg, amddiffyniad cyfreithiol i'r rhai sy'n gadael gofal, a chofrestr o lobïwyr yng Nghymru.

Cyhoeddodd hefyd bod grŵp Reform yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn bwriadu cyflwyno cynnig yn ystod wythnos gyntaf y tymor seneddol newydd i alw am rôl flaenllaw i Gymru yn Ymchwiliad Annibynnol y Deyrnas Unedig i Gangiau Grŵmio. 

Yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Senedd ym Mae Caerdydd, dywedodd fod Reform UK eisioes wedi bod yn llais cryf dros gymunedau sydd wedi eu hesgeuluso. 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.